Awyr Las | Blue Sky

Bwydlen

Miloedd o bunnoedd wedi’u rhoi i wasanaethau canser wedi i'r pwyllgor ddod i ben

Mae pwyllgor a gododd filiynau o bunnoedd i sefydlu uned achub bywyd gofal canser yn camu i lawr.

Mae'r sefydliad y tu ôl i Gronfa Haematoleg a Chanser Gwynedd yn dod i ben wedi 35 mlynedd o wasanaeth.

Sefydlwyd y Gronfa gan Dr Tom Korn ym 1987, a'i gwnaeth hi'n genhadaeth iddo i wella triniaeth canser i bobl Gwynedd a Môn.

Mae un arall o aelodau sylfaenu’r pwyllgor, Dr Huw Parry, yn cofio, fel meddyg ifanc, pan ddechreuodd gyntaf ym 1981, fod triniaeth canser yn gyfyngedig iawn yng Ngogledd Cymru.

Roedd yn rhaid i gleifion deithio mor bell ag Ysbyty Clatterbridge, Cilgwri, ar gyfer y rhan fwyaf o driniaethau.

Pan ymunodd â Dr Tom Korn i ffurfio Cronfa Haematoleg a Chanser Gwynedd, fe wnaethon nhw hefyd wahodd y cyfreithiwr lleol Geraint Lloyd Jones, fu'n darparu cyngor cyfreithiol hyd at y pwyllgor olaf ym Mehefin. Roedd y tri’n benderfynol o wella gwasanaethau canser yn y rhanbarth.

"Yn y dyddiau cynnar iawn, roeddwn i'n gweithio yn Ysbyty Môn ac Arfon ym Mangor (Morrisons erbyn hyn) ac ychydig iawn o wasanaeth oedd ar gyfer cleifion canser yng Ngogledd Cymru," cofia Dr Parry, Cadeirydd y pwyllgor.

“Byddai meddyg ymgynghorol yn dod draw o Ysbyty Clatterbridge ddwywaith yr wythnos i roi triniaeth. Ymhen amser penderfynais i ag eraill gymryd cornel o'r ysbyty nad oedd yn cael ei defnyddio a dechrau rhoi triniaeth cemotherapi i gleifion am y tro cyntaf yng Ngwynedd.

“Roedd yn brofiad eithaf diddorol gan fod plastr yn dod oddi ar waliau’r bloc preifat hwn, ond roedd yn ddechrau."

Yn 1992, perswadiodd Dr Tom Korn Awdurdod Iechyd Gwynedd i lansio apêl i godi £1m i adeiladu Uned Triniaeth Haematoleg a Chanser newydd yn Ysbyty Gwynedd, ddaeth yn fuan yn Ward Alaw.

Lansiwyd yr apêl o dan arweiniad y codwr arian profiadol Dr Jim Davies a chodwyd £1.4 miliwn mewn dim ond pedair mlynedd, gyda'r uned yn agor yn 1999.

Byddai pob un ohonom ar y pwyllgor a Phrif Nyrs y Ward, Manon Williams yn teithio ar hyd a lled Gwynedd a Môn i ledaenu'r gair ynghylch yr hyn yr oeddem yn ceisio ei wneud - ac i gasglu sieciau.

“Rydw i'n cofio un noson ofnadwy o stormus, roeddem wedi drysu'r dyddiadau ac roeddwn i wedi teithio’r holl ffordd i Edern, ym Mhen Llŷn, i godi siec wedi diwrnod hir yn y gwaith a dywedwyd wrthyf fy mod i ddiwrnod yn gynnar felly roedd yn rhaid i mi fynd yn ôl y noson wedyn.”

Aeth ymlaen: "Rydym yn cyflwyno sgyrsiau i wahanol grwpiau o'r Ford Gron, Clwb Rotari, Merched y Wawr, Cylch Merched a Sefydliad y Merched ac yn y blaen, ac rydw i bob amser wedi dweud oni bai am haelioni enfawr pobl o Wynedd a Môn, yna fyddai Uned Alaw erioed wedi cael ei hadeiladu.

“Roeddem ni hefyd yn lwcus iawn o dderbyn cymynroddion gan rai pobl garedig iawn.”

Ers hynny mae'r gronfa wedi codi a rhoi dros £3m, gyda'r mwyafrif helaeth ohono yn mynd tuag at Ward Alaw.

Mae'r ward yn cefnogi amrywiaeth eang o driniaethau achosion dydd a chleifion mewnol i gleifion â chanserau gwahanol.

Dros y blynyddoedd mae'r gronfa wedi parhau i gefnogi ystod eang o brosiectau gan gynnwys offer meddygol, cyflogau i staff ar Ward Alaw, grantiau cleifion a hyd yn oed ymchwil meddygol sy'n digwydd ym Mhrifysgol Bangor.

Yn 2014, rhoddwyd £500,000 i ganiatáu i brosiect estyniad Ward Alaw fynd yn ei flaen. Ar y pryd ni fu unrhyw welliannau mawr i'r uned ers ei hagor ym 1999. Cost gyffredinol y prosiect adnewyddu oedd cyfanswm o £1.2m, daeth gweddill yr arian gan Gyfeillion Ward Alaw ac Awyr Las, Elusen GIG Gogledd Cymru.

Yn fwy diweddar, arianwyd maes parcio i gleifion a reolir gan farrau atal, gwerth £500,000 i gleifion cemotherapi ar Alaw, fel nad oedd yn rhaid i gleifion straffaglu i ganfod mannau parcio neu gerdded yn rhy bell ar gyfer eu hapwyntiadau.

Daeth y syniad am faes parcio i gleifion gan gyn nyrs Ward Alaw Chas Muskett.

Yn ystod cyfarfod pwyllgor terfynol Cronfa Gymorth Haematoleg a Chanser Gwynedd ddydd Mercher, 22 Mehefin, cyflwynwyd balans o'r gronfa o £94,609 i Dr Claire Fuller a Metron Ward Alaw Manon Wiliams i gefnogi’r gwaith o ddatblygu uned asesu cleifion canser brys ar y ward. Yn ôl y sawl a fu yno, fe brofodd i fod "yn noson emosiynol”.

Dywedodd Cadeirydd y Gronfa Dr Parry "mae'r amser wedi dod i mi gamu i lawr. Rwy'n falch iawn o'n rhodd ac mae triniaeth ar Ward Alaw cystal, os nad yn well, nag unrhyw le yn y DU. Rwy'n sicr y byddwn yn derbyn triniaeth o’r radd flaenaf yno pe bai arna’ i angen ei gwasanaethau ryw dro.

“Mae Ward Alaw wedi tyfu i gael 18 gwely, ac mae mwy na 30 o bobl yn defnyddio Uned Dydd Alaw bob dydd.

“Mae’n uned brysur iawn. Nid yw hyn am fod mwy o ganser o gwmpas ond oherwydd, diolch byth bod pobl bellach yn byw yn hirach, mae graddau goroesi wedi gwella a thriniaeth well yn golygu bod pobl yn byw yn hirach gyda chanser.”

Nododd hefyd y gallai unrhyw un sy’n dymuno parhau i godi arian gyfrannu yn uniongyrchol drwy gyfrwng Cronfa Awyr Las Uned Alaw, cronfa bwrpasol o fewn Elusen Awyr Las GIG Gogledd Cymru.

Dywedodd Jen Owens Williams, Prif Nyrs Ward Uned Dydd Alaw: :"Wnawn ni fyth anghofio rhodd Dr Parry a gweddill y pwyllgor cyllid. Oni bai amdanyn nhw, fyddai Uned Alaw - yn syml - ddim yn bodoli.”

Os yw'r stori hon wedi eich ysbrydoli chi ac yr hoffech wella bywydau’r cleifion yng Ngogledd Cymru, beth am ymuno â digwyddiad nofio #TîmIrfon sy'n digwydd ym Medi? Gallwch gofrestru heddiw.

Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf

Gadewch i mi wybod am newyddion a digwyddiadau Awyr Las, a sut y gallaf wneud rhywbeth anhygoel i wella gofal iechyd yng Ngogledd Cymru

Keep in touch Already subscribed? Unsubscribe here