Janet Bell yn cyflwyno gwaith celf yn rhodd i’r Swît Brofedigaeth newydd yn Ysbyty Gwynedd
Diolch yn fawr iawn i Janet Bell sydd wedi rhoi darn hyfryd o waith celf gwreiddiol i’r Swît Brofedigaeth newydd yn Ysbyty Gwynedd.
Mae’r Tîm Profedigaeth yn Ysbyty Gwynedd wedi bod yn gweithio’n galed dros y 12 mis diwethaf i godi mwy na £16,000 er mwyn creu swît brofedigaeth newydd yn yr ysbyty ar gyfer teuluoedd sydd, yn drist iawn, wedi colli eu babanod oherwydd marw-enedigaeth neu farwolaeth newyddenedigol.
Bydd y darn celf yn gwneud i'r swît newydd deimlo'n fwy cartrefol i’r teuluoedd sy'n dymuno treulio amser gyda'u babi.
Mae'r swît sydd gennym ar hyn o bryd wedi'i lleoli yn yr Uned Asesu Cleifion Mamolaeth Allanol lle gall teuluoedd glywed teuluoedd eraill yn cael sganiau beichiogrwydd a babanod newydd-anedig yn crio.
Bydd y swît newydd, a leolir yn yr Uned dan Arweiniad Bydwragedd ar goridor tawel, yn cynnwys ystafell wely ddwbl, ystafell ymolchi a chegin fach. Bydd digon o le hefyd yn yr ystafell wely ar gyfer CuddleCot, a bydd teuluoedd yn medru treulio amser gwerthfawr gyda'u babi yn ystod un o'r cyfnodau anoddaf yn eu bywydau.
Os dymunwch gyfrannu tuag at brynu pethau ychwanegol ar gyfer y swît newydd, ewch i https://www.justgiving.com/campaign/ygangelroom.