Ar ôl cael ataliad ar y galon mae dyn o Gaernarfon wedi rhoi diffibrilwr yn rhodd i ysgol gynradd, gyda’r bwriad y bydd plant yn cael eu dysgu ynglŷn â sut allan nhw achub bywyd.

Cafodd diffibrilwr ei ddefnyddio ar Gwyn Roberts pan aeth yn anymwybodol yn Llandudno ym mis Chwefror eleni. Aeth aelod o’r cyhoedd i nôl y peiriant o gaffi lleol, tra bod person arall yn rhoi triniaeth CPR. Wyth munud yn ddiweddarach cafodd y peiriant ei ddefnyddio i ail-gychwyn calon Mr Roberts yn llwyddiannus, a diolch i ymdrechion y bobl oedd o’i gwmpas y diwrnod hwnnw e yn fyw o hyd.
Mae’r gŵr 77 oed nawr yn annog pawb i ddysgu am y dechneg yma o achub bywyd am ei fod, meddai, “yn brawf fod y CPR yn gweithio”.
Yn dilyn y driniaeth lwyddiannus cafodd Mr Roberts wybod y byddai’r cwmni a oedd wedi cynhyrchu’r peiriant a achubodd ei fywyd - Zoll Medical UK AED – yn cyfrannu dyfais am ddim i unrhyw un sydd wedi derbyn triniaeth gan un o’u peiriannau nhw, ac a oedd wedi goroesi’r ataliad. Penderfynodd Mr Roberts roi'r peiriant i Ysgol Llannefydd yn Sir Ddinbych.
Bydd CPR a’r defnydd o diffibrilwyr yn cael ei ddysgu mewn ysgolion fel rhan o’r cwricwlwm newydd cyn bo hir, er mwyn rhoi’r cyfle i blant ledled Cymru ddysgu sgiliau achub bywyd yn gynnar iawn yn eu bywyd.
Dywedodd Julie Starling, Rheolwr Prosiect Cadwch Curiadau gydag elusen Awyr Las: “CPR a’r defnydd o beiriant defib yw’r cyfuniad gorau posibl i achub bywyd rhywun. Ni does angen unrhyw hyfforddiant ar sut i ddefnyddio diffibrilwr am ei fod yn dweud wrthoch chi ar lafar beth i’w wneud.
“Pan fyddwch chi’n ffonio 999 bydd y gweithiwr gyda’r gwasanaeth ambiwlans yn dweud wrthoch chi ble mae’r peiriant agosaf. Peidiwch â rhoi’r gorau i CPR; gofynnwch i rywun arall i nôl y peiriant drosoch chi.
“Mae CPR yn sgil hawdd iawn i’w ddysgu, a gallwch wneud hynny ar-lein hyd yn oed yn www.awyrlas.org.uk/cy/keepthebeats”