Awyr Las | Blue Sky

Bwydlen

Gwirfoddolwyr yn lansio bocs cysur i gleifion canser Wrecsam

Yn dilyn 15 mis o waith caled, mae chwech o wirfoddolwyr yn barod i lansio pecyn cysur o’r enw Bocs Seren i gleifion canser newydd yn yr Uned Seren Wib yn Ysbyty Maelor Wrecsam.

Mae gan y tîm o chwech, Anne Marie, Grace, Sara, Kathy, Kathryn a Sam, gysylltiad personol â'r Uned, gyda rhai yn weithwyr gofal iechyd proffesiynol a’r lleill yn gleifion blaenorol ar y ward.

Cafodd y Bocs Seren ei hysbrydoli gan glaf blaenorol o’r enw Grace, sy’n hen law ar godi arian erbyn hyn. Yn 19 mlwydd oed, a hithau wedi cael diagnosis o Lymffoma Hodgkin, llwyddodd i godi £14,000 i elusennau amrywiol, gan gynnwys Awyr Las: Elusen GIG Gogledd Cymru.

Gwariodd Grace £5,000 o’r arian a godwyd ar Fagiau TREATment ar gyfer yr Uned Seren Wib, sef bagiau o eitemau bach cysurus i gleifion newydd cyn iddyn nhw gychwyn eu triniaeth.

Roedd y staff ar yr Uned wrth eu bodd â’r bagiau cysur, ac roedden nhw’n awyddus i rywbeth fel hyn barhau. Ffurfiodd Anne Marie Humphreys, Uwch Brif Nyrs yr Uned, Grŵp Gwirfoddolwyr y Bocs Seren er mwyn creu eu bocsys cysur eu hunain.

Dywedodd Anne Marie, yr Uwch Brif Nyrs a chyd-grëwr y Bocs Seren: “Bydd y Bocs Seren yn ehangu profiad y cleifion yn ystod eu hymweliad yn yr Uned Seren Wib.

"Mae’r nyrsys cemotherapi arbenigol yn gwbl ymwybodol bod agwedd glinigol o ran gofal y claf yn hollbwysig tuag at sicrhau ymateb cadarnhaol i broses yr afiechyd.

“Fodd bynnag, mae gallu ategu at hyn gyda gwybodaeth amserol, tosturi ac arwyddion cefnogol o ewyllys da yn gwneud gwahaniaeth i glaf sy’n derbyn triniaeth.”

Diolch i gyfraniadau a noddwyr hael, mae pob bocs yn costio £15 yr un i’w gwneud a byddent ar gael i gleifion o 24 Ebrill ymlaen ar yr Uned.

Os hoffech gefnogi Cronfa’r Bocs Seren, ewch i https://www.justgiving.com/cam...

Diolch enfawr i’r noddwyr a’r cyfranwyr anhygoel sydd wedi gwireddu breuddwyd y Bocs Seren: Cymorth Canser Seren Wib, NetWorld Sports, Hyrwyddwr Cymunedol Morrisons Wrecsam, Hyrwyddwr Cymunedol Asda Wrecsam, Lyan Packaging, Grŵp Crefft Gresffordd, Sefydliad Cariad Gobaith Cryfder, Kevin Longley, a llawer iawn mwy.

Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf

Gadewch i mi wybod am newyddion a digwyddiadau Awyr Las, a sut y gallaf wneud rhywbeth anhygoel i wella gofal iechyd yng Ngogledd Cymru

Keep in touch Already subscribed? Unsubscribe here