Awyr Las | Blue Sky

Bwydlen

Claf sydd wedi gwella o ganser, ac sy’n ysbrydoli, yn cefnogi’r bocs cysur yn Ysbyty Maelor Wrecsam

Mae unigolyn ysbrydoledig, sy’n 23 mlwydd oed, wedi ymuno â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a chleifion blaenorol eraill yn yr Uned Seren Wib yn Wrecsam i lansio bocs cysur i gleifion newydd sy'n derbyn triniaeth cemotherapi.

Dim ond 19 mlwydd oed oedd Grace Parry pan gafodd ddiagnosis o Lymffoma Hodgkin, math o ganser anghyffredin sydd fel arfer yn effeithio ar nodau lymff mewn pobl rhwng 20 a 40 mlwydd oed. Bu'n dogfennu ei thaith ar y cyfryngau cymdeithasol, yn siarad am ei thriniaeth, a hefyd i godi ymwybyddiaeth am y canser.

Derbyniodd Grace gemotherapi am chwe mis yn yr Uned Seren Wib yn Ysbyty Maelor Wrecsam, a phythefnos o radiotherapi wedi hynny yn Ysbyty Glan Clwyd cyn iddi fod yn rhydd o ganser.

Wrth siarad am ei diagnosis, dywedodd Grace: "Ar ôl cael diagnosis ym mis Ionawr 2019, roedd gen i agwedd gadarnhaol a meddylfryd penderfynol.

"Oherwydd y meddylfryd hwn, roeddwn wedi gosod dau nod i mi fy hun; un, i gwblhau fy nhriniaeth, a dau, codi llawer o ymwybyddiaeth ac arian yn y broses.

“Gyda chymorth gan fy ffrindiau anhygoel, fy nheulu, a chan bobl nad oeddwn yn eu hadnabod hyd yn oed, cafodd fy mreuddwyd ei wireddu.”

Ynghyd â’i thair chwaer, aeth Grace ati i godi ychydig o arian i ddiolch i'r Uned am ei gofal, gan anelu'n wreiddiol at godi £150 o arian. Ond, yn y pen draw, llwyddodd y pedair i godi dros £10,000 ar gyfer gwahanol achosion.

Yn 2020, cafodd hanner yr arian ei wario ar 100 o Fagiau TREATment, sef bagiau o eitemau cysurus i gleifion newydd yn yr Uned Seren Wib.

Doedd dim byd tebyg i hyn yn bodoli pan roeddwn yn derbyn fy nhriniaeth yn yr Uned. Roeddwn yn teimlo fel pe tai rhywbeth ar goll, a dyna pam wnes i brynu’r Bagiau TREATment ar gyfer yr Uned. Roedd adborth y staff yn anhygoel, roedd y cleifion wrth eu bodd â’r bagiau ac roedd y staff yn awyddus iddynt barhau pan nad oedd mwy o fagiau ar ôl.
Grace Parry

Er bod y bagiau’n llwyddiant ysgubol, doedd dim llawer o le i’w storio ar y ward, ac o ganlyniad, dyna sut crëwyd y Bocs Seren. Yn cael ei lansio ddiwedd mis Ebrill, bydd y Bocs Seren yn cael ei roi i gleifion newydd yn yr Uned Seren Wib er mwyn iddynt gael ychydig o wybodaeth ddefnyddiol a rhywfaint o gysur wrth iddynt ddechrau ar eu taith trwy ganser.

Diolch i noddwyr, rhoddwyr a gwirfoddolwyr amrywiol, mae’r bocsys gwerth £15 wedi’u gwireddu. Mae'r tîm o wirfoddolwyr yn bwriadu codi arian er mwyn sicrhau bod y rhain yn dod yn rhan barhaol ar yr Uned.

I gefnogi Grace, a’r Tîm Bocs Seren, cliciwch yma.

Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf

Gadewch i mi wybod am newyddion a digwyddiadau Awyr Las, a sut y gallaf wneud rhywbeth anhygoel i wella gofal iechyd yng Ngogledd Cymru

Keep in touch Already subscribed? Unsubscribe here