Awyr Las | Blue Sky

Bwydlen

Good Companions Treffynnon yn ailagor caffi’r ysbyty

Mae Good Companions Ysbyty Treffynnon wedi bod yn codi arian ers dros hanner canrif er budd cleifion sy'n ymweld â'r gwasanaeth cymunedol.

Ar ôl bod ar gau am bron i dair blynedd, mae caffi Good Companions wedi ailagor yn yr ysbyty i wasanaethu cleifion, teuluoedd a staff ac i godi arian ar gyfer prynu nwyddau ychwanegol i’r ysbyty.

Sefydlodd John a Jean Saunders y Good Companions yn 1964 oherwydd bod Jean, a oedd yn nyrs yn yr ysbyty, yn anfodlon oherwydd y diffyg sgriniau ar gyfer gwelyau cleifion yn yr ysbyty.

Prynodd y cwpl y sgriniau eu hunain a chynnal boreau coffi i godi'r arian yr oedd mawr ei angen. Yn anffodus bu farw Jean yn 2015 ond mae’r tîm wedi parhau i godi arian er cof amdani ac i sicrhau bod y gofal gorau yn cael ei roi yn yr ysbyty.

Dywedodd John, Cadeirydd y Good Companions: “Rydym wrth ein bodd fod y bar te wedi ail agor ar ôl bod ar gau am dair blynedd.

“Mae staff, cleifion ac ymwelwyr yn hapus dros ben ein bod wedi agor unwaith eto ac i weld ein bod yn codi arian i’r ysbyty. Rydym yn gobeithio y byddwn yn medru ailgychwyn cynnal ein digwyddiadau eleni ac y gallwn barhau i fod o fudd i bobl leol gyda'r arian rydym yn ei godi.

“Hyd yn hyn, nid ydym wedi gorfod gwrthod unrhyw gais, diolch i’r rhoddion rydym wedi derbyn. Rydyn ni yma i sicrhau bod cleifion yn cael arhosiad mwy cyfforddus yn yr ysbyty trwy ddarparu hanfodion a chysuron.”

Mae John a Jean ill dau wedi derbyn MBE am eu gwaith, gyda Jean yn ei dderbyn yn 2000, a John yn cael yr anrhydedd yn 2013.

Cyn y pandemig, roedd y pwyllgor o 30, ynghyd â 100 o wirfoddolwyr, yn cynnal digwyddiadau di-ri i godi arian i’r ysbyty gan gynnwys ffeiriau a'r boreau coffi gwreiddiol. Maent yn gobeithio y bydd y cwbl yn ailgychwyn yn 2023.

Mae’r Good Companions wedi codi cannoedd o filoedd o bunnoedd er budd cleifion Treffynnon a’r ardaloedd cyfagos ar hyd y 59 mlynedd maen nhw wedi bod yn gwirfoddoli

Mae pob adran yn yr ysbyty wedi derbyn nifer fawr iawn o bethau nad yw’n bosib i’r GIG eu hariannu, gan gynnwys offer amrywiol yn ogystal â hanfodion a chysuron i gleifion.

Os hoffech chi gefnogi Good Companions Treffynnon, gallwch wneud cyfraniad gydag arian parod neu siec wrth alw heibio’r bar te neu Dderbynfa Ysbyty Cymuned Treffynnon.

Mae’r Good Companions bob amser yn chwilio am fwy o wirfoddolwyr i helpu; os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli, cysylltwch â John Saunders ar 01352713652.

Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf

Gadewch i mi wybod am newyddion a digwyddiadau Awyr Las, a sut y gallaf wneud rhywbeth anhygoel i wella gofal iechyd yng Ngogledd Cymru

Keep in touch Already subscribed? Unsubscribe here