Gŵr yn codi arian ar ôl i wraig feichiog gael diagnosis o felanoma
I fam ifanc o Landudno bu’r misoedd diwethaf yn bennaf i mewn ac allan o ysbytai ar ôl iddi gael diagnosis o ganser y croen a geni ei mab naw wythnos yn gynnar.
Yn gynharach eleni roedd Nicola Orme, 33, wedi sylwi bod man geni (mole) ar ei braich wedi newid yn ystod y misoedd diwethaf, a phenderfynodd gael cyngor ar ôl iddo waedu. Roedd hi hefyd wedi cael cyngor gan nyrs yn ystod ei beichiogrwydd.
Yn dilyn biopsi, cafodd y fam feichiog ar y pryd y newyddion erchyll bod ganddi felanoma, math o ganser y croen sy'n aml yn cael ei achosi gan ormod o haul.
I wneud pethau'n waeth, wythnos cyn yr oedd hi i fod i gael llawdriniaeth, torrodd dŵr Nicola, a ganed Lincoln, ei mab bach, naw wythnos yn gynnar.
Mae gan Nicola, sy'n briod â Mark, ddau fachgen arall yn barod, sy’n chwech oed a dwy a hanner oed.
Dywedodd Mark, sy’n gweithio i Gyngor Sir Conwy fel rheolwr ffitrwydd: “Treuliodd Lincoln fis yn yr uned gofal arbennig i fabanod yn Ysbyty Gwynedd, a dim ond dydd Iau diwethaf (Mehefin 30) y daeth adref.
“Pan gafodd ei eni roedd yn pwyso 4 pwys 3 owns, a nawr mae’n pwyso 5 pwys 6 owns – mae o dal yn fach ond mae’r staff yn yr SCBU yn hapus iawn efo fo.
“Oherwydd y bechgyn a’r hyn sydd wedi bod yn digwydd gyda Lincoln dydyn ni ddim wedi cael gormod o amser i ganolbwyntio ar yr hyn sydd wedi bod yn digwydd gyda Nicola, ac mae’n dda mewn ffordd i allu meddwl am rywbeth arall.
“Mae ei man geni wedi cael llawdriniaeth ac wedi cael ei dynnu, a bellach rydyn ni jyst yn aros i weld a oes angen mwy o driniaeth arni, i weld a yw wedi lledu,” meddai Mark.
Ychwanegodd y gwr 39 oed: “Mae’n gyfnod pryderus gan fy mod yn drist iawn wedi colli fy mam i felanoma a hithau ond yn 48 oed.”
Dywed Mark fod ei wraig yn arfer caru torheulo, a bellach mae'n difaru peidio â bod mor wyliadwrus wrth roi eli haul arni, fel roedd hi bob amser wedi gwneud gyda’r plant.
Drwy gydol y cyfnod hynod heriol hwn, mae’r teulu’n dweud mai’r hyn sydd wedi eu cadw’n positif yw’r “proffesiynoldeb, y tosturi a’r empathi anhygoel” a ddangoswyd iddynt gan staff amrywiol y GIG y maent wedi cyfarfod â nhw. “Yn benodol, mae’r tîm ar ward SCBU Ysbyty Gwynedd wedi gofalu am Lincoln mor dda ac wedi bod yn garedig ac ystyriol gyda’r holl deulu ar bob cam o’r ffordd hyd yn hyn,” meddai Mark.
“Lincoln yw’r ail o’n tri mab sydd wedi derbyn gofal o fewn SCBU yn Ysbyty Gwynedd ac am y rheswm hwn rwyf am roi rhywbeth yn ôl a chodi arian i’r uned trwy Awyr Las, Elusen GIG Gogledd Cymru.”
Ar ddydd Gwener, Hydref 14 gan ddechrau am 7am mae’n anelu i gerdded y chwe phrif lwybr i fyny’r Wyddfa o fewn 36 awr, gan orffen erbyn 7pm ar ddydd Sadwrn, Hydref 15.