Ffrind gorau yn troedio i Fynyddoedd yr Himalaia ar gyfer Canolfan Ganser Gogledd Cymru
Ar ôl cael diagnosis o ganser y coluddyn yn 2020, ac yn dal i ymladd y frwydr, mae Shaun Loughran wedi bod yn derbyn ei driniaeth cemotherapi yng Nghanolfan Trin Canser Gogledd Cymru ers dros ddwy flynedd.
Mae ei ffrind agos, Gary Eccleston, wedi dewis codi arian ar gyfer Apêl Canser Gogledd Cymru (NWCA) drwy droedio i Fynyddoedd yr Himalaia. Ei nod oedd cwblhau’r tri gwersyll cychwyn, y tri chopa a’r tri bwlch mewn 21 diwrnod. Gyda’r her bellach wedi dod i ben, mae Gary wedi llwyddo i godi swm anhygoel gwerth £1,510 hyd yma i NWCA, a fydd yn gymorth mawr i’r ganolfan drin “anhygoel”. Dywedodd Shaun: “Rydw i wedi dewis yr elusen hon oherwydd yn gyntaf oll, rydw i eisiau i’n gwaith o godi arian wneud gwahaniaeth, felly penderfynais ddewis elusen fach, elusen leol ac elusen sy'n golygu rhywbeth i mi.
"Bydd fy ffrind da a gwallgof yn gwthio ei gorff i'r eithaf gyda'r heriau eithafol hyn, 100% o’i ben a’i bastwn ei hun, ac wedi’u hariannu ei hun. "Mae’n anrhydedd mawr i ddewis elusen iddo ac i fod yn rhan o’r gwaith o godi arian ar gyfer achos mor wych."
Dechreuodd her Gary ddydd Sul 5 Mawrth, a daeth i ben ddydd Sadwrn 25 Mawrth, wedi 21 diwrnod o droedio ar uchder uchel, gyda llai na 50% o ocsigen mewn rhai ardaloedd. Wrth gwblhau’r her, dywedodd Gary: “Dyma’r profiad mwyaf brawychus, heriol, pleserus, poenus, emosiynol, corfforol, mewnweledol y byddaf fyth yn ei brofi mewn bywyd.
"Rydw i wedi bod drwy bob emosiwn, ac ambell un ychwanegol sydd ddim hyd yn oed yn bodoli. Mae sut llwyddodd fy nghorff i wthio fy hun ymlaen bob dydd, pan na allwn fod wedi bod yn is o ran cryfder ac egni y tu hwnt i mi.
"Mae'n rhaid i mi ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu ac am eich negeseuon o gefnogaeth."
Yn y gorffennol mae Shaun wedi codi arian ar gyfer Cronfa Bobby Moore drwy wneud ymarferion cicio i fyny bob dydd am fis mewn gwahanol leoliadau ar draws y wlad.
Er mwyn parhau i gefnogi Shaun a Garry ar y daith hon, gallwch gyfrannu’n ariannol ar-lein yma.