Awyr Las | Blue Sky

Bwydlen

Cyn nofiwr Prydain Fawr yn codi arian i #TîmIrfon

Dywed nyrs o Ysbyty Gwynedd sy'n gyn nofwraig yn nhîm GB, ei bod yn cymryd rhan yn Her Nofio Tîm Irfon y mis nesaf i ddiolch i staff y GIG sydd wedi bod yn gofalu am ei 'Uwch-arwr' o dad.

Y llynedd, cafodd tad Amy Spencer ddiagnosis canser datblygedig y brostad yn cynnwys ymlediad metastatig at ei esgyrn, pan oedd yn 58 oed.

Fodd bynnag, gyda chymorth y Tîm Oncoleg anhygoel ar Ward Alaw yn Ysbyty Gwynedd, mae wedi cael ymateb rhyfeddol i gemotherapi a hormonau. Mae'n golygu ei fod yn fwy tebygol o lawer o fyw bywyd hirach nag y credid yn flaenorol.

Er mwyn diolch i'r tîm ar Ward Alaw, penderfynodd Amy, 32 oed, i gymryd rhan yn Nigwyddiad Nofio Tîm Irfon eleni, ar 10 Medi, gan nofio dwy filltir mewn dŵr agored o Bier Biwmares i Bier Bangor. Mae hynny'n her ddigon anodd i unrhyw nofiwr ond efallai ryw fymryn yn haws i Amy, a oedd yn arfer nofio dros Dîm GB ers iddi fod yn 11 oed.

"Roeddwn i wrth fy modd o fod yn rhan o sgwad iau nofio tîm GB pan oeddwn i'n blentyn, gwnaeth y profiad ddysgu gwytnwch, disgyblaeth a sgiliau cadw amser i mi," meddai Amy, sydd â phlentyn bach sy'n 18 mis oed.

"Byddai fy rhieni'n mynd â mi i bob rhan o'r wlad ar gyfer digwyddiadau a bûm yn cystadlu hyd nes i mi fod yn 17 oed."

Aeth Amy yn ei blaen: "Gan fy mod wedi symud i Wynedd o Brighton, yr hyn sy'n mynd â'm bryd i yw nofio mewn dŵr agored, mae gennym ni glwb yn Ysbyty Gwynedd ac rydym yn cyfarfod unwaith yr wythnos ac ni waeth faint o straen yr ydw i oddi tani, mae'r cwbl yn diflannu pan fyddaf yn plymio i'r dŵr oer."

Ychwanegodd: "Mae'n rhaid i mi gyfaddef y bydd digwyddiad nofio Tîm Irfon yn eithaf heriol gan nad ydw i o reidrwydd yn hoff o nofio gwyllt yn y môr gan nad yw rhywun byth yn digwydd beth sydd oddi tano!"

Mae Amy eisoes wedi codi £2,000 ar gyfer Ward Alaw trwy ei thudalen ac mae’n gobeithio codi hyd yn oed fwy.

"Llwyddais i godi £1,000 mewn 24 awr yn unig ond y ffaith bod fy nhad i mor anhygoel sy'n gyfrifol am hynny, nid y fi," meddai.

"Mae'n ofalwr llawn amser i fy mam sydd wedi'i chofrestru fel unigolyn anabl a bydd yn gwneud unrhyw beth dros unrhyw un.

"Mae'r staff ar Ward Alaw wedi bod yn anhygoel tuag ato ac roeddem ni mor ddiolchgar am hynny yn ystod y pandemig, gan na allem ni fod gydag o yn ystod y driniaeth ond pan fyddai'n gadael Ward Alaw ar ôl triniaeth, byddai ganddo wên enfawr ar ei wyneb bob amser ac mae hynny'n golygu popeth."

Ychwanegodd Amy: Mae'n rhaid i mi ychwanegu heb fy Mam, Helen, ei wraig am dros 35 o flynyddoedd, na fyddai fy nhad wedi bod â'r nerth meddyliol i ddelio â'r 12 mis diwethaf."

Lansiwyd digwyddiad nofio Tîm Irfon yn 2014 gan Irfon Williams, rheolwr nyrsio CAMHS, ar ôl iddo ddechrau cael triniaeth ar Uned Canser Alaw yn Ysbyty Gwynedd. Lansiodd yr ymgyrch i godi arian i brynu gwalltiau gosod i eraill sy'n derbyn triniaeth gemotherapi.

Os hoffech gymryd rhan yn nigwyddiad nofio #TîmIrfon eleni, cliciwch yma i gofrestru heddiw.

Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf

Gadewch i mi wybod am newyddion a digwyddiadau Awyr Las, a sut y gallaf wneud rhywbeth anhygoel i wella gofal iechyd yng Ngogledd Cymru

Keep in touch Already subscribed? Unsubscribe here