Awyr Las | Blue Sky

Bwydlen

Caffi Urdd Cyfeillion Ysbyty Rhuthun yn ailagor

Yn ddiweddar, mae gwirfoddolwyr selog wedi ailagor y caffi yn Ysbyty Cymuned Rhuthun ar ôl iddo fod ar gau am dair blynedd yn dilyn Covid ac yn sgil gwaith ailwampio.

Mae Urdd Cyfeillion Ysbyty Rhuthun, yr elusen sy'n gyfrifol am y bar te yn yr Ysbyty Cymuned, wedi llwyddo o'r diwedd i agor drysau eu llecyn lluniaeth newydd sbon, ac maent wrth eu bodd yn cael croesawu staff, cleifion a theuluoedd yn ôl i'r cyfleuster.

Mae'r tîm o 21 o bobl, yn cynnwys aelodau'r pwyllgor a gwirfoddolwyr, wedi cydweithio ers blynyddoedd i godi arian at yr ysbyty cymuned. Yn ddiweddar, gwnaed gwaith ailwampio gwerth £4m yn yr ysbyty, ac fe wnaeth Urdd y Cyfeillion gyfrannu £50,000 i dalu am dderbynfa newydd, bar te ac ystafell ar gyfer perthnasau.

Dywedodd Sylvia Hughes, un o Is-lywyddion Urdd Cyfeillion Ysbyty Cymuned Rhuthun: “Mae'n hyfryd cael ailagor ein bar te ar ôl iddo fod ar gau am dair blynedd. Yn bersonol, roeddwn i'n gweld eisiau'r bar te yn ystod pandemig Covid, oherwydd rwy'n mwynhau mynd allan a chwrdd â phobl newydd.

“Rwy'n rhan o Urdd Cyfeillion Ysbyty Rhuthun ers dros 56 mlynedd erbyn hyn, felly mae dod yma a chyfranogi mor agos yng ngwaith yr ysbyty yn rhan go iawn o fy mywyd. Mae'r ysbyty'n wych ar ôl ei ailwampio, ac roedd hi'n fraint cael cyfrannu at hynny trwy ariannu'r bar te newydd, llecyn y dderbynfa a'r ystafell i berthnasau.”

Dywedodd Morfudd Jones, y Cadeirydd, a Nerys Roberts, yr Ysgrifenyddes, eu bod wrth eu bodd yn gweld y caffi ar agor unwaith eto ar ôl bod ar gau cyhyd.

Bydd y bar te ar agor bob dydd Mawrth a dydd Iau rhwng 10am a 12pm, a bob dydd Sadwrn a dydd Sul rhwng 2pm a 4pm. Yn fuan, bydd bar coffi a siocled poeth 24 awr ar gael yn y caffi, fel y gall staff a theuluoedd fwynhau diodydd poethion hyd yn oed os bydd y caffi ar gau.

Mae'r prosiectau Urdd y Cyfeillion sydd yn yr arfaeth at y dyfodol yn cynnwys ailwampio'r ardd fel y gall teuluoedd fynd yno gyda chleifion ac i gynnig lle yn yr awyr agored ble gall staff dreulio'u hamser egwyl.

Os hoffech fod yn un o wirfoddolwyr Urdd Cyfeillion Ysbyty Rhuthun, gallwch fynegi eich diddordeb trwy anfon e-bost at Morfudd Jones yn morfuddmenna1@gmail.com.

Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf

Gadewch i mi wybod am newyddion a digwyddiadau Awyr Las, a sut y gallaf wneud rhywbeth anhygoel i wella gofal iechyd yng Ngogledd Cymru

Keep in touch Already subscribed? Unsubscribe here