Awyr Las | Blue Sky

Bwydlen

Mae breuddwyd arwr pêl-droed Cymru o godi miloedd o bunnau at Ysbyty Maelor Wrecsam wedi cael hwb enfawr diolch i fusnes lleol

Gwnaeth cinio elusennol a drefnwyd gan Wrexham Lager godi swm anhygoel o £5,000 sydd wedi cael ei roi'n rhodd i Uned Rhannau Uchaf y Gastroberfedd yn yr ysbyty, a achubodd fywyd Mickey Thomas.

Cafodd y cyn chwaraewr a fu'n chwarae i Manchester United ddiagnosis canser yr oesoffagws yn 2019. Roedd ei symptomau'n cynnwys cael anhawster llyncu a cholli pwysau.

Roedd ei diwmor mor fawr fel y bu'n rhaid torri ei asennau i'w dynnu ond yn ffodus, gwnaeth ei lawfeddyg Andrew Baker lwyddo i'w dynnu i gyd.

I ddiolch i Mr Baker a'i dîm anhygoel, gan gynnwys nyrs arweiniol y safle, Michelle Curtis, bydd Mickey yn cerdded i gopi'r Wyddfa ar 18 Mehefin, gan gyfarfod â'i dîm meddygol eto a fydd yn cerdded ochr yn ochr ag o.

Dywedodd Michelle Curtis: "Hoffem ddweud diolch yn fawr am y rhodd yma o £5,000 sydd mor arbennig oherwydd cyfraniad un o'n cleifion.

"Byddwn yn defnyddio'r arian tuag at ein nod o ddarparu theatr laparosgopig integredig yn Wrecsam a fydd yn caniatáu gwelliannau parhaus i ddulliau rheoli llawfeddygol cleifion sydd â chanser yn Rhannau Uchaf y Gastroberfedd.

"Diolch am barhau i gefnogi gwasanaethau llawfeddygol canser arbenigol ar gyfer Rhannau Uchaf y Gastroberfedd yng nghanolfan Gogledd Cymru yn Wrecsam ac yng Nghymru gyfan."

Bydd cefnogwyr Mickey, ei ffrindiau a'i deulu yn ymuno â nhw, ac efallai y bydd ychydig o wynebau enwog hyd yn oed!

Mae Mickey yn gobeithio y bydd cynifer o bobl â phosibl yn ymuno ag o ar y llwybr a hwn yw'r un rhwyddaf i gyrraedd copi'r Wyddfa. Mae llwybr PYG Llanberis yn ymestyn dros gyfanswm o 7.8 milltir.

Mae lleoedd yn dal i fod ar gael. Cliciwch yma i gofrestru neu ffoniwch 07966509692.

Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf

Gadewch i mi wybod am newyddion a digwyddiadau Awyr Las, a sut y gallaf wneud rhywbeth anhygoel i wella gofal iechyd yng Ngogledd Cymru

Keep in touch Already subscribed? Unsubscribe here