Awyr Las | Blue Sky

Bwydlen

1,000 o fagiau cymorth cemotherapi wedi eu rhoddi i Ward Alaw yn Ysbyty Gwynedd

Mae sylfaenwyr Chemocare Bags wedi bod yn rhoddi pecynnau cymorth i Ward Alaw yn Ysbyty Gwynedd ers 2020, ac maent bellach wedi rhoddi dros 1,000 o fagiau i gefnogi cleifion ers ei lansio.

Lansiwyd y sefydliad yn y lle cyntaf pan gafodd tad Olivia Hart, a gŵr Emma Hart, y sylfaenwyr, ddiagnosis o ganser y coluddyn, cam tri, ac yntau ond yn 45 mlwydd oed. Ar ôl i'r ddwy fod yn dyst i’r daith cemotherapi a rhai o sgîl-effeithiau annymunol y driniaeth, roedden nhw’n awyddus i gefnogi eraill a oedd yn mynd trwy'r un profiad.

Yn ddiweddarach, ymunodd Pam Gannon ȃ nhw, wedi i’w gŵr farw o ganser y coluddyn yn 2011, ac y mae hi wedi bod yn creu pob bag unigryw ȃ llaw.

Wrth siarad am y Chemocare Bags, dywedodd Olivia: “Diolch i bawb sydd wedi rhoddi eitemau, rhoi cyfraniadau, wedi codi arian neu wedi helpu i godi arian. Rydych chi i gyd wedi ein helpu i gyrraedd lle rydym ni ac rydym yn gwerthfawrogi’r holl gefnogaeth!

“Bellach mae 1,000 o fagiau wedi’u rhoddi i Ward Alaw yn Ysbyty Gwynedd ers Awst 2020! Diolch!”

Mae’r bagiau wedi’u llenwi ag eitemau sy’n cynnig cysur er mwyn helpu cleifion cemotherapi newydd ar ddechrau eu triniaeth. Mae’r bagiau yn cynnwys sanau trwchus, llyfr nodiadau a beiro, llyfr lliwio a phensiliau, cynheswyr dwylo, hylif diheintio dwylo, balm gwefusau, mintys ac eli dwylo.

Dywedodd Jen Owens, y Brif Nyrs ar Uned Dydd Alaw yn Ysbyty Gwynedd : "Rydym mor ddiolchgar i Chemocare Bags am eu holl waith caled yn creu’r bagiau cymorth cemotherapi hyn. Ers mis Awst 2020, mae cleifion cemotherapi newydd wedi bod yn ddigon ffodus o dderbyn un o'r bagiau gwych dan sylw i'w helpu ar ddechrau eu triniaeth a gyda rhai o sgîl-effeithiau'r driniaeth.

“Mae hi mor anodd dechrau eich triniaeth cemotherapi ac mae’r bagiau hyn yn ffordd o dynnu meddwl y cleifion o’r hyn sy’n digwydd, hyd yn oed am gyfnod byr, a rhoi rhywbeth mor feddylgar iddynt ei fwynhau”.

Mae’r bagiau’n costio tua £9 yr un i’w gwneud ac mae hyn yn cynnwys bag wedi’i wneud ȃ llaw a'i holl gynnwys sy'n cael ei brynu trwy roddion a’u rhoddi gan siopau.

Os hoffech gefnogi Chemocare Bags gyda’r holl waith maen nhw’n ei wneud i Ward Alaw, ewch i https://www.chemocarebags.com/

Os hoffech gyfrannu’n uniongyrchol i Ward Alaw yn Ysbyty Gwynedd, cliciwch yma.

Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf

Gadewch i mi wybod am newyddion a digwyddiadau Awyr Las, a sut y gallaf wneud rhywbeth anhygoel i wella gofal iechyd yng Ngogledd Cymru

Keep in touch Already subscribed? Unsubscribe here