I CAN
Mae I CAN yn ymgyrch newydd i wella'r gefnogaeth sydd ar gael i unigolion sydd â phroblemau iechyd meddwl yng Ngogledd Cymru.
Beth yw ymgyrch I CAN?
Mae I CAN yn ymgyrch newydd i wella'r gefnogaeth sydd ar gael i unigolion sydd â phroblemau iechyd meddwl yng Ngogledd Cymru.
Mae ymgyrch I CAN wedi'i gwreiddio mewn cymunedau lleol ac yn cael ei harwain gan gynghrair o unigolion sy'n angerddol am gyflawni newid gwirioneddol ac ystyrlon ar gyfer unigolion y mae iechyd meddwl yn effeithio arnynt. Mae ymgyrch I CAN yn cael ei lywio gan unigolion sydd â phrofiad o broblemau iechyd meddwl, unigolion sy'n gweithio mewn gwasanaethau iechyd meddwl ac yn gwirfoddoli ynddynt, a'r rhai sy'n rhan o elusennau iechyd meddwl lleol.
Pam ymgyrch I CAN?
Mae unigolion sy'n (I) Annibynnol, sy’n Cyfrannu, sy’n Actif ac sy'n (N) Rhwydweithio yn mwynhau gwell iechyd meddwl a lles, ac mae ganddynt fwy o wytnwch i ddelio â heriau bywyd. Bydd yr ymgyrch lawr gwlad hon yn grymuso unigolion sy'n cael trafferth â'u hiechyd meddwl i sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed- ac y gwrandewir arnynt- ac yn rhoi cyfleoedd i'w galluogi i ddatblygu, fel y gallent hefyd ddweud "I Can".
Pam fod ymgyrch I CAN yn bwysig?
Nid yw pob salwch yn weledol. Mae Asesiad o Anghenion Poblogaeth Gogledd Cymru 2017 yn amcangyfrif bod gan oddeutu 93,000 o unigolion sy'n 16 oed neu hŷn broblem iechyd meddwl cyffredin. Mae rhagolygon yn awgrymu y bydd y ffigwr hwn yn cynyddu i 99,000 erbyn 2035.
- Mae 1 o bob 4 oedolyn yn profi problemau neu salwch iechyd meddwl ar ryw bwynt o'u bywydau (Mind, 2016).
- Mae cynnydd sylweddol wedi bod yn nifer yr unigolion ifanc sy'n hunan niweidio
- Mae 53% o ferched Cymru yn dioddef o broblemau iechyd meddwl lefel isel
- Bydd 1 o bob 16 unigolyn dros 65, ac 1 o bob 6 dros 80 oed, yn cael ei effeithio gan ddementia
- Mae hunan niweidio yn arwain at oddeutu 6,000 o dderbyniadau brys i'r ysbyty yng Nghymru bob blwyddyn
- Mae 9 o bob 10 unigolyn sydd â phroblemau iechyd meddwl yn profi stigma ac anffafriaeth
- Mae unigolion sy'n byw â salwch meddwl parhaol yn marw hyd at 20 mlynedd yn iau na'r boblogaeth gyffredin
Mae'r niferoedd yn dweud y cyfan: mae gan broblemau iechyd meddwl y potensial i effeithio ar bob un ohonom, a gall eu heffeithiau (ynghyd â stigma cysylltiedig) fod yn ddinistriol. Er gwaetha’r niferoedd, mae ymchwil yn awgrymu nad yw nifer fawr o unigolion sydd â phroblemau iechyd meddwl yn gofyn am gymorth. Mae hyn yn golygu fod unigolion yn colli allan ar gefnogaeth bwysig yn gynnar, ac weithiau gallent fod mewn sefyllfa o argyfwng ac yn ansicr ble i droi.
Beth mae ymgyrch I CAN yn mynd i'w wneud?
Bydd ymgyrch I CAN yn ychwanegu at rai o'r cynlluniau cyffrous sy'n cael eu datblygu gan y GIG yng Ngogledd Cymru, awdurdodau lleol a darparwyr trydydd sector i wella'r gefnogaeth sydd ar gael i unigolion sy'n profi argyfwng iechyd meddwl. Bydd gweithgareddau a digwyddiadau wedi'u hanelu at ysgolion, cymunedau a gweithleoedd yn cael eu dylunio i helpu i godi ymwybyddiaeth, mynd i'r afael â stigma, ac annog trafodaeth agored am iechyd meddwl.
Bydd yr arian a godir yn cefnogi prosiectau sy'n:
- Helpu unigolion ifanc ddatblygu gwytnwch emosiynol i ddelio â heriau bywyd
- Darparu ymyrraeth gynnar effeithiol i unigolion sy'n profi problemau iechyd meddwl
- Helpu unigolion sydd 'dim ond yn ymdopi' â'u hiechyd meddwl i ddatblygu
- Darparu cefnogaeth i bobl sy'n cael argyfwng iechyd meddwl
Bydd yr arian a godir yn ariannu pethau ychwanegol pwysig sy'n mynd y tu hwnt i beth mae'r GIG yn gallu ei ddarparu. Bydd yr arian a godir yn cael ei ddosbarthu ar ffurf grantiau Awyr Las. Bydd tri phanel amrywiol o unigolion yn gyfrifol am osod blaenoriaethau, asesu ceisiadau grant a dyrannu'r holl arian a roddir drwy'r ymgyrch hon. Mae'r paneli hyn yn cwmpasu Gogledd Orllewin Cymru, Canol Gogledd Cymru, a Gogledd Ddwyrain Cymru. Byddent yn cynnwys cynrychiolwyr o'r gwasanaeth iechyd, awdurdodau lleol, y trydydd sector ac unigolion sydd â phrofiad o broblemau iechyd meddwl.
Sut alla i fod yn rhan o ymgyrch I CAN?
Sefwch gyda ni a dweud "Gallaf wneud gwahaniaeth i unigolion sy'n profi problemau iechyd meddwl".
1. Rhoi
Gallwch anfon ICAN i 70500 yn awr i roi £10 i ymgyrch I CAN. Bydd eich rhodd yn helpu i sicrhau bod unigolion sy'n profi argyfwng iechyd meddwl yn gallu cael mynediad at gefnogaeth leol pan maent ei hangen fwyaf.
Gallwch hefyd:
- Rhoi eich pen-blwydd i ymgyrch I CAN ar Facebook - ble allwch ofyn i'ch ffrindiau a'ch teulu roi i ymgyrch I CAN yn hytrach na chael anrhegion.
- Creu tudalen yn gysylltiedig ag Ymgyrch JustGiving I CAN, ble gallwch wneud eich her eich hun i godi arian ar gyfer I CAN.
- Cymryd rhan mewn digwyddiadau a gweithgareddau eraill i helpu i godi arian
2. Dod yn Bencampwr I CAN
O ble bynnag yr ydych, a beth bynnag fo'ch profiad, mae rhan i chi ei chwarae yn ymgyrch I CAN. Am wybodaeth ar sut allwch wneud gwahaniaeth i unigolion sy'n profi problemau iechyd meddwl, cofrestrwch i gadw mewn cysylltiad ag Awyr Las ac gadewch i ni wybod hoffech chi glywed mwy am I CAN. Ymunwch â'r grŵp Facebook hefyd!
3. Anogwch eich ysgol, busnesau neu grwpiau lleol i gymryd rhan
O wneud sgipathon noddedig ar y buarth i roi posteri I CAN yn y swyddfa; mae gymaint o ffyrdd i'ch ysgol chi, eich gweithlu neu grŵp cymuned gymryd rhan. I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Thîm Cefnogi Awyr Las.
Awyr Las, yw eich Elusen GIG lleol. Mae Awyr Las yn helpu i sicrhau bod cleifion a'u teuluoedd yn elwa o well gwasanaethau GIG pan fydd arnynt eu hangen fwyaf.
Mae ein helusen yn gwneud gwir wahaniaeth i fywydau unigolion a'u teuluoedd oherwydd mae nyrsys a staff meddygol y rheng flaen yn penderfynu ar ei flaenoriaethau. Mae'r arian a roddir drwy Awyr Las yn mynd y tu hwnt i beth gall y GIG ei roi; nid yw'n cymryd lle cyllid statudol.
Gallwch gyfrannu'n uniongyrchol tuag at unrhyw ward, adran neu wasanaeth iechyd cymunedol yng Ngogledd Cymru drwy Awyr Las. Mae cefnogwyr hyfryd Awyr Las yn helpu i ariannu'r cyfarpar o'r radd flaenaf a chyfleusterau newydd; hyfforddiant ychwanegol i staff a'r ymchwil gorau yn y byd; prosiectau arbennig a gwasanaethau ychwanegol; therapïau cyflenwol a phethau ychwanegol i wneud ein cleifion yn fwy cyffyrddus.
Ers 2010 mae'r elusen wedi ariannu dros £23m o welliannau i wasanaethau gofal iechyd. Waw!