Awyr Las | Blue Sky

Bwydlen

Ras 2020 wedi'i ohirio tan Hydref 30ain, 2021

Marathon Eryri

Eisiau cael lle am ddim ym Marathon Eryri 2019 sydd WEDI GWERTHU ALLAN?

Pleidleisiwyd Marathon Eryri fel marathon gorau Prydain ddwywaith. Mae’r llwybr heriol ac ysblennydd, o amgylch yr Wyddfa, copa uchaf Cymru a Lloegr, yn rhoi lle unigryw i’r digwyddiad yng nghalendr blynyddol y marathon.

Bydd y digwyddiad yn 2019 yn cael ei gynnal ddydd Sadwrn, Hydref 26 am 10:30 a.m.


marathon-logo.pngYr oll sydd angen i chi ei wneud yw gwneud addewid y byddwch yn casglu £250 at Awyr Las. Byddwn hyd yn oed yn rhoi pecyn codi arian am ddim i chi, sy’n cynnwys awgrymiadau ar godi arian a chrys-t elusennol. Mae llefydd yn gyfyngedig. Cyntaf i’r felin!

Wyddoch chi?

Mae elusen GIG Gogledd Cymru, Awyr Las, yn ariannu gwasanaethau gwell yn ychwanegol at yr hyn y mae'r GIG yn ei ariannu. Mae rhoddion o'r cyhoedd yn gwneud gwahaniaeth enfawr i'r gofal a'r driniaeth y gall ein staff ymroddedig y GIG eu darparu

Ers 2010 mae Awyr Las wedi ariannu gwelliannau o dros £23m i wasanaethau gofal iechyd ar draws y rhanbarth diolch i haelioni pobl leol, Sefydliadau cenedlaethol a chleifion diolchgar o bell ac agos. Mae'r cymorth hwn wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau cleifion a'u teuluoedd, oherwydd bod blaenoriaethau'r elusen yn cael eu pennu gan staff meddygol a nyrsio rheng flaen sy'n gwybod beth sydd ei angen ar gleifion i wneud eu profiadau yn yr ysbyty a'r gymuned yn llawer gwell.

Nid yw Awyr Las yn cymryd lle cyllid GIG statudol. Mae eich rhoddion gwirioneddol yn gwella'r gofal sydd ar gael i bobl leol mewn ffyrdd na fyddent yn bosibl fel arall.

Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf

Gadewch i mi wybod am newyddion a digwyddiadau Awyr Las, a sut y gallaf wneud rhywbeth anhygoel i wella gofal iechyd yng Ngogledd Cymru

Keep in touch Already subscribed? Unsubscribe here