Awyr Las | Blue Sky

Bwydlen

Grantiau MI FEDRAF

Meddyliwch am yr her fwyaf i chi a'ch cleifion. Beth allech chi ei wneud gyda hyd at £1,000 i ddechrau mynd i’r afael â'r broblem?

Mae gan Awyr Las £6,000 o gyllid MI FEDRAF ar gael i gefnogi staff sy'n gweithio mewn (neu'n agos iawn gyda) gwasanaethau iechyd meddwl sydd â syniad arloesol i fynd i’r afael â phroblem sy'n wynebu eu gwasanaethau. Dyma’ch cyfle i roi cynnig ar ffordd newydd o weithio, rhoi syniad ar waith neu i ddechrau gwneud pethau'n wahanol er budd eich cleifion.

Ydych chi'n gweithio mewn gwasanaethau iechyd meddwl mewn unrhyw ardal BCUHB?

Os felly, rydych chi'n gymwys i wneud cais!

Cymhwyster

Rhaid i'ch syniad:

  • Gefnogi ward, adran neu brosiect BIPBC mewn gwasanaethau iechyd meddwl (neu un sydd wedi'i alinio'n agos iawn â gwasanaethau iechyd meddwl)
  • Bod â thema iechyd meddwl
  • Cael ei harwain gan aelod o staff BIPBC
  • Cyfrannu at brif nodau strategol BIPBC
  • Bod yn elusennol ac yn unol â gweithdrefnau ariannol Awyr Las

Proses Asesu

Bydd y Pennaeth Codi Arian a'r Cyfrifydd Elusennol yn adolygu'r holl geisiadau a dderbynnir cyn y dyddiad cau (23:59 ar 12/11/19). Bydd uchafswm o ddeg cais yn cael eu rhoi ar y rhestr fer. Bydd panel o chwe aseswr, sy'n cynnwys aelodau o Grŵp Elusennol Gwasanaethau Iechyd Meddwl ac aelodau o Dîm Cefnogi Awyr Las, yn sgorio'r ceisiadau sydd ar y rhestr fer. Bydd y prosiectau sy'n sgorio uchaf yn llwyddo i gael grant MI FEDRAF. Bydd tri aelod uwch o staff o fewn y gwasanaethau iechyd meddwl yn penderfynu blaenoriaethu terfynol a dyrannu cyllid.

Bydd y nifer uchaf o ymgeiswyr llwyddiannus yn dibynnu ar faint o arian a ofynnir amdano gan bob ymgeisydd, ond bydd lleiafswm o chwe phrosiect yn derbyn cyfanswm o £1,000 yr un.

Mae'r panel eisiau gweld prosiectau newydd a chyffrous. Ni ellir defnyddio'r grantiau i ariannu gwaith parhaus, neu ar gyfer prosiect sydd wedi'i wneud yn barod yn union yr un ffordd.

Meini Prawf Asesu

Wrth benderfynu ar bwy gaiff y grant, bydd y prosiectau sy'n ymdrin â'r meini prawf asesu canlynol yn sgorio uchaf:

  • Cyfanswm y cleifion a allai elwa ohono
  • Y math o gleifion a allai elwa ohono - mae'r cynllun grant hwn wedi'i gynllunio i gefnogi'r bobl fwyaf bregus
  • Y math o fuddion bydd y cleifion yn eu derbyn a sut bydd hyn yn gwella eu profiadau
  • Pa mor arloesol yw'r syniad
  • Pa mor debygol yw'r prosiect o wneud gwahaniaeth, gwella ansawdd a gwella gofal - a'r dystiolaeth a ddarperir i gefnogi hyn
  • P'un a oes cynlluniau i barhau â’r prosiect ar ôl y grant cychwynnol o £1,000 ai peidio, ac a oes cynllun codi arian yn ei le i gefnogi hyn
  • Pa mor gadarn yw'r dull o fonitro a gwerthuso'r prosiect

Sut i Ymgeisio

Cwblhewch y ffurflen gais isod yn llawn.

Mae'n rhaid i chi gael yr awdurdod angenrheidiol cyn cyflwyno eich cais - gweler cwestiwn 7 yn y Cwestiynau Cyffredin isod.

Dyddiad Cau

Rhaid cyflwyno eich cais erbyn 23:59, Dydd Mawrth 12 Tachwedd. Ni fyddwn yn ystyried rhoi ceisiadau a dderbyniwyd ar ôl hyn ar y rhestr fer.

Pryd fyddwn yn gwybod?

Byddwn yn rhoi gwybod i chi erbyn 17:00 Dydd Mawrth 3 Rhagfyr os yw eich syniad wedi cael ei ddewis i gael grant MI FEDRAF.

Cwestiynau Cyffredin

  1. A yw fy ward, adran neu brosiect yn gymwys? Mae pob ward, adran a phrosiect BIPBC sy'n dod o dan y gwasanaethau iechyd meddwl yn gymwys i ymgeisio. Efallai y byddwch chi'n gymwys os nad ydych chi'n gweithio ym maes iechyd meddwl, ond mae'ch gwaith wedi'i alinio'n agos iawn â'r gwasanaethau iechyd meddwl. Efallai y byddwch hefyd yn gallu gwneud cais os ydych chi'n sefydliad elusennol allanol sy'n gweithio mewn partneriaeth â gwasanaethau iechyd meddwl BIPBC. Gwiriwch cyn gwneud cais - e-bostwch awyrlas@wales.nhs.uk neu ffoniwch 01248 384395.
  2. Pwy all gyflwyno'r ffurflen? Rhaid i chi fod yn aelod o staff BIPBC i gyflwyno'r cais. Rhaid i bob prosiect gael ei arwain gan aelod o staff BIPBC. Rhaid i aelod o staff BIPBC fod â pherchnogaeth o'r prosiect a pharhau i gymryd rhan am ei hyd.
  3. A oes unrhyw beth yn benodol yr ydych eisiau ei weld yn y ceisiadau? Rydym yn croesawu pob syniad - ond cofiwch fod y cynllun grant hwn wedi'i gynllunio i gefnogi'r bobl fwyaf bregus, felly mae'r panel eisiau gweld syniadau a fydd yn fuddiol i gleifion sy'n byw â phroblemau iechyd meddwl, neu brosiectau ymyrraeth gynnar.
  4. A allaf ymgeisio os nad oes gan fy ward, prosiect neu adran gronfa Awyr Las? Gallwch - ond os ydych yn cael y grant, efallai byddwch eisiau ystyried sefydlu un i barhau â'ch prosiect ar ôl i chi wario'r grant cychwynnol.
  5. A allwch chi fy helpu i lenwi'r ffurflen? Ar bob cyfrif - os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â awyrlas@wales.nhs.uk neu ffoniwch 01248 384395 (WHTN 1746 4395).
  6. Beth fydd angen i mi ei wneud os bydd fy ward / prosiect / adran yn llwyddiannus? Byddwn yn cysylltu â chi gyda'r camau nesaf. Bydd disgwyl i chi gwblhau ffurflenni monitro cyfnodol trwy gydol eich prosiect (yn cynnwys lluniau a thystebau gan staff neu fuddiolwyr) a chyflwyno adroddiad gwerthuso byr wedi i'r prosiect ddod i ben, ond bydd Tîm Cefnogi Awyr Las yn eich helpu chi gyda hyn.
  7. Pwy sydd angen awdurdodi fy nghais? Bydd angen i chi ofyn i aelod o staff uwch neu staff Band 6 i lofnodi eich cais. Os nad ydych yn siŵr i bwy i ofyn, siaradwch â ni cyn i chi gyflwyno eich cais - awyrlas@wales.nhs.uk neu ffoniwch 01248 384395 (WHTN 1746 4395).

Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf

Gadewch i mi wybod am newyddion a digwyddiadau Awyr Las, a sut y gallaf wneud rhywbeth anhygoel i wella gofal iechyd yng Ngogledd Cymru

Keep in touch Already subscribed? Unsubscribe here