Awyr Las | Blue Sky

Bwydlen

Mae cynllun grant Calonnau a Meddyliau Awyr Las - hyd at £1,000 i wella gwasanaethau i gleifion - yn awr ar agor am ychydig o amser yn unig.

Cynllun grant Calonnau a Meddyliau

Meddyliwch am yr her fwyaf i chi a'ch cleifion. Beth allech chi ei wneud gyda hyd at £1,000 i ddechrau mynd i’r afael â'r broblem?

Y gaeaf hwn, mae cyllid ar gael i gefnogi POB ward ac adran ar draws BCUHB sydd â syniad arloesol i fynd i'r afael â phroblem sy'n wynebu eu gwasanaeth. Dyma’ch cyfle i roi cynnig ar ffordd newydd o weithio, rhoi syniad ar waith neu i ddechrau gwneud pethau'n wahanol er budd eich cleifion.

Cymhwyster

Rhaid i'ch syniad:

  • Gyfrannu'n gadarnhaol at Brofiad Cleifion yn BIPBC
  • Fod dan arweiniad aelod o staff BIPBC
  • Gyfrannu at amcanion strategol allweddol BIPBC
  • Fod yn elusennol ac yn unol â gweithdrefnau ariannol Awyr Las

Bydd y Pennaeth Codi Arian a'r Cyfrifydd Elusennol yn adolygu'r holl geisiadau a dderbynnir cyn y dyddiad cau (23:59 ar 29/11/2019). Bydd uchafswm o ugain cais yn cael eu rhoi ar y rhestr fer. Yna bydd uchafswm o 20 cais yn cael ei roi ar restr fer. Bydd y ceisiadau ar y rhestr fer yn cael eu hasesu gan aelodau’r Pwyllgor Cronfeydd Elusennol, cynrychiolwyr cleifion ac aelodau o’r Tîm Cefnogi Awyr Las, a fydd yn sgorio’r ceisiadau ar y rhestr fer. Bydd y prosiect sydd â'r sgôr uchaf yn llwyddiannus ac yn cael grant Calonnau a Meddyliau.

Meini Prawf Asesu

Wrth ddewis pwy sy'n cael grant, bydd y prosiectau sy'n mynd i'r afael â'r meini prawf asesu canlynol yn cael y sgôr uchaf:

  • Cyfanswm y cleifion all elwa
  • Y math o fantais y bydd staff a chleifion yn ei chael a sut bydd hyn yn gwella'u profiad
  • Pa mor arloesol yw'r syniad
  • Pa mor debygol ydyw o wneud gwahaniaeth, gwella ansawdd, a gwella gofal - a'r dystiolaeth a ddarperir i gefnogi hyn
  • P'un ai os oes cynlluniau i barhau gyda'r prosiect ar ôl y grant cychwynnol o £1,000, ac os oes cynllun codi arian yn ei le i gefnogi hyn
  • Pa mor gadarn yw'r dull o fonitro a gwerthuso'r prosiect

Sut i Wneud Cais

Cwblhewch y ffurflen gais isod yn llawn.

Os ydych yn cael trafferth cael mynediad at y ffurflen ar-lein yn y gwaith, efallai nad oes gennych yr awdurdod angenrheidiol i gael mynediad at wefan Awyr Las. Er mwyn datrys hyn, logiwch alwad gyda'r Ddesg Gymorth gan ddefnyddio'r Porth Gwybodeg ar eich bwrdd gwaith.

Mae'n rhaid i chi gael yr awdurdod angenrheidiol cyn cyflwyno'ch cais - gweler cwestiwn 7 yn y Cwestiynau Cyffredinol isod.

Dyddiad cau

Mae'n rhaid derbyn ceisiadau erbyn 23:59 dydd Gwener 29 Tachwedd. Ni fydd ceisiadau a dderbynir ar ôl hyn yn cael eu hystyried ar gyfer y rhestr fer.


Pa bryd y byddwn yn gwybod?


Byddwn yn rhoi gwybod i chi erbyn 5pm Dydd Gwener 13ain Rhagfyr 2019 p'un ai yw eich syniad wedi ei ddewis i gael grant Calonnau a Meddyliau.


Cwestiynau Cyffredinol

  1. A yw fy ward, adran neu brosiect yn gymwys? Mae pob ward, adran a phrosiect yn gymwys i wneud cais. Os nad ydych yn siŵr, gwiriwch cyn gwneud cais - e-bostiwch awyrlas@wales.nhs.uk neu ffoniwch 01248 384395.
  2. Pwy all gyflwyno'r ffurflen? Mae'n rhaid i chi fod yn aelod o staff BIPBC i gyflwyno’r cais. Mae'n rhaid i bob prosiect fod o dan arweiniad aelod o staff BIPBC. Mae'n rhaid i aelod o staff BIPBC fod â pherchnogaeth o'r prosiect a pharhau'n ran o'r prosiect ar gyfer hyd y prosiect. Gall partïon allanol, gan gynnwys grwpiau trydydd sector, fod yn rhan o'r cais. Gall staff Iechyd y Cyhoedd hefyd fod yn rhan o lunio'r cais, ond rhaid i aelod o staff BIPBC gyflwyno'r cais.
  3. A oes unrhyw beth penodol rydych eisiau ei weld yn y cais? Croesawir pob syniad - ond cofiwch fod y cynllun grant hwn wedi'i gynllunio i gefnogi mentrau Profiad Cleifion.
  4. A allaf wneud cais os nad oes gan fy ward, gwasanaeth neu adran gronfa Awyr Las? Gallwch - ond os ydych yn cael grant, efallai y byddwch angen ystyried agor cronfa er mwyn parhau gyda'ch prosiect ar ôl i chi wario'r grant cychwynnol.
  5. Allwch chi fy helpu i lenwi'r ffurflen? Yn bendant - os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch ag awyrlas@wales.nhs.uk neu 01248 384395 (WHTN 1746 4395).
  6. Beth fydd angen i mi ei wneud os yw fy ward / gwasanaeth / adran yn llwyddiannus? Byddwn yn cysylltu â chi gyda'r camau nesaf. Bydd gofyn i chi gwblhau ffurflenni monitro cyfnodol drwy gydol eich prosiect (gan gynnwys lluniau a thystebau gan staff neu fuddiolwyr) a chyflwyno adroddiad gwerthuso byr ar ôl i'r prosiect orffen, ond bydd Tîm Cefnogi Awyr Las yn eich helpu â hyn.
  7. Pwy sydd angen awdurdodi fy nghais? Bydd angen i aelod o staff sy'n Fand 6 neu uwch lofnodi eich cais. Os nad ydych yn siŵr i bwy i ofyn, siaradwch â ni cyn cyflwyno eich cais - awyrlas@wales.nhs.uk neu 01248 384395 (WHTN 1746 4395).

Sylwch: Gallwch arbed eich cynnydd ac ailddechrau yn ddiweddarach os dymunwch. Sicrhewch eich bod yn pwyso'r botwm "Save".

Rydym yn argymell gwirio eich bod wedi derbyn dolen i ailddechrau'ch cais trwy e-bost cyn i chi gau'r ffurflen.

PWYSIG: Bydd eich cais yn parhau i fod yn anghyflawn nes i chi lenwi'r holl feysydd a phwyso "Ymgeisio".

Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf

Gadewch i mi wybod am newyddion a digwyddiadau Awyr Las, a sut y gallaf wneud rhywbeth anhygoel i wella gofal iechyd yng Ngogledd Cymru

Keep in touch Already subscribed? Unsubscribe here