Awyr Las | Blue Sky

Bwydlen

Hanner Marathon Caer

Llefydd ar gael am ddim ar gyfer Hanner Marathon Caer. Ydych chi’n barod i ymgymryd â’r her?

Dyma farathon sydd wedi ennill llawer o wobrau a hwn yw’r unig farathon rhyngwladol yn y Deyrnas Unedig o Ddinas Rufeinig/ Canoloesol rhyngwladol Caer.

Cynhelir digwyddiad 2019 ddydd Sul, Mai 19

marathon-logo.pngY cyfan sydd angen i chi ei wneud yw ymrwymo i godi £150 ar gyfer Awyr Las. Byddwn ni hyd yn oed yn rhoi pecyn codi arian am ddim i chi, sy'n cynnwys awgrymiadau ar godi arian a chrys-t elusen. Mae lleoedd yn gyfyngedig. Cyntaf i'r felin caiff falu!

Wyddoch chi?

Mae elusen GIG Gogledd Cymru, Awyr Las, yn ariannu gwasanaethau gwell yn ychwanegol at yr hyn y mae'r GIG yn ei ariannu. Mae rhoddion o'r cyhoedd yn gwneud gwahaniaeth enfawr i'r gofal a'r driniaeth y gall ein staff ymroddedig y GIG eu darparu.

Ers 2010 mae Awyr Las wedi ariannu gwelliannau o dros £23m i wasanaethau gofal iechyd ar draws y rhanbarth diolch i haelioni pobl leol, Sefydliadau cenedlaethol a chleifion diolchgar o bell ac agos. Mae'r cymorth hwn wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau cleifion a'u teuluoedd, oherwydd bod blaenoriaethau'r elusen yn cael eu pennu gan staff meddygol a nyrsio rheng flaen sy'n gwybod beth sydd ei angen ar gleifion i wneud eu profiadau yn yr ysbyty a'r gymuned yn llawer gwell.

Nid yw Awyr Las yn cymryd lle cyllid GIG statudol. Mae eich rhoddion gwirioneddol yn gwella'r gofal sydd ar gael i bobl leol mewn ffyrdd na fyddent yn bosibl fel arall.

Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf

Gadewch i mi wybod am newyddion a digwyddiadau Awyr Las, a sut y gallaf wneud rhywbeth anhygoel i wella gofal iechyd yng Ngogledd Cymru

Keep in touch Already subscribed? Unsubscribe here