Awyr Las | Blue Sky

Bwydlen

Digwyddiad Nofio Pier i Bier #TîmIrfon 2022

Mae digwyddiad nofio #TîmIrfon yn ôl!

Ym mis Medi, rydym yn dod yn ôl yn well nag erioed gyda digwyddiad nofio Pier i Bier #TîmIrfon ac rydym am i chi fod yn rhan ohono! Mae'r digwyddiadau nofio wedi codi dros £20,000 hyd yn hyn ar gyfer Cronfa Gofal Canser Gogledd Cymru ac maen nhw wedi caniatáu i gymaint o bethau newydd gael eu hariannu ar gyfer cleifion canser ar draws Gogledd Cymru.

Mae'r digwyddiad nofio yn cael ei gynnal ddydd Sadwrn 10fed Medi 2022 a bydd nofwyr yn mynd o Bier Biwmares i Bier Bangor.

Gall nofwyr medrus sydd wedi profi nofio mewn dŵr agored o'r blaen gymryd rhan yn y digwyddiad nofio mewn dŵr agored 2 filltir, ond gall unrhyw un gymryd rhan mewn annog y nofwyr ar Bier Bangor.

Rhaid i'r holl nofwyr gofrestru i gymryd rhan yn y digwyddiad hwn, a rhaid cytuno i'r telerau ac amodau yma. Rhaid i'r holl nofwyr o dan 18 oed gael caniatâd rhieni i gymryd rhan.

Cliciwch YMA i gofrestru heddiw!

Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf

Gadewch i mi wybod am newyddion a digwyddiadau Awyr Las, a sut y gallaf wneud rhywbeth anhygoel i wella gofal iechyd yng Ngogledd Cymru

Keep in touch Already subscribed? Unsubscribe here