Awyr Las | Blue Sky

Bwydlen

Dysgwr Cymraeg y Flwyddyn BIPBC

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn arloeswyr ym maes hyfforddiant Cymraeg i staff.

Ers creu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn 2009, Roedd tîm Gwasanaethau Cymraeg bach y Bwrdd Iechyd ar flaen y gad yng Nghymru o ran darparu gwasanaethau Cymraeg yn y GIG. Ers hyn, mae’r tîm wedi ehangu ac esblygu i fod yn dîm blaengar a chyffrous, sy’n cefnogi’r Bwrdd Iechyd cyfan i ddarparu gwasanaethau Cymraeg i gleifion. Maen nhw, ynghyd â Safonau’r Gymraeg wedi helpu i godi safonau ac ymwybyddiaeth o ran yr angen am wasanaethau Cymraeg yn y GIG.

Yn 2016, ni oedd y bwrdd iechyd cyntaf yng Nghymru i benodi ein Tiwtor Cymraeg ein hunain. Mae hyn yn arddangos ymroddiad a brwdfrydedd y Bwrdd Iechyd i ddysgu Cymraeg. Ers hyn, mae llawer iawn o’n staff wedi manteisio ar y gwasanaeth unigryw hwn, a ddarperir am ddim i bob adran, ac wedi dechrau dysgu neu barhau ar y daith dysgu Cymraeg roeddent wedi cychwyn arni yn y gymuned.

Dros y tair blynedd ers i’r tiwtor fod yn ei swydd, mae cannoedd o staff wedi bod mewn cysylltiad â ni, a bellach rydym wedi datblygu i ddarparu hyfforddiant Cymraeg 1:1, cyrsiau byr i adrannau, dosbarthiadau cyffredinol a ddarperir ar draws gogledd Cymru i bob lefel gallu, ac yn fwy diweddar, rydym wedi cydweithio gyda Chymraeg Gwaith, sydd wedi darparu cyllid grant pellach i ni er mwyn gallu darparu cyrsiau ychwanegol yn benodol i’r staff, h.y. cyrsiau ar-lein, cyrsiau dwys a phreswyl, sydd wedi bod yn amhrisiadwy i’n staff. Mae’r grant hwn hefyd wedi ein galluogi i gyflogi Swyddog Cefnogi Hyfforddiant Cymraeg. Mae’r cynllun cydweithio hwn yn gynllun unigryw ac mae’r bartneriaeth hon rhwng y Bwrdd Iechyd a Chymraeg Gwaith y cyntaf o’i fath yng Nghymru. Rydym hefyd yn darparu cyfleoedd i’n staff i ymarfer yr hyn maen nhw wedi’i ddysgu drwy grwpiau sgwrsio, system gyfeillio ac amrywiol weithgareddau drwy gyfrwng y Gymraeg.

Er mwyn annog mwy o ddysgwyr posibl a gwobrwyo ein dysgwyr mwyaf ymroddedig, dymunwn gynnal cystadleuaeth Dysgwr Cymraeg y Flwyddyn o fewn BIPBC, sy’n cyflogi oddeutu 17,000 o staff.

Bydd y gystadleuaeth yn cael ei lansio ganol mis Hydref 2019, yn ystod Wythnos y Gymraeg BIPBC, bydd y beirniadu’n digwydd yn gynnar yn 2020 a chynhelir y seremoni wobrwyo yn ystod wythnos Dydd Gŵyl Dewi. Gobeithiwn allu denu sylw’r wasg a’r cyfryngau.

Yn ôl cyfrifiad 2011, mae’r niferoedd uchaf o siaradwyr Cymraeg sy’n byw yng ngogledd Cymru yng Ngwynedd (65%), ond yn gyffredinol yng ngogledd Cymru mae traean o’r boblogaeth yn siaradwyr Cymraeg, ac mae’r galw am wasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg yn amlwg ym mhob ardal, gan gynnwys pobl o ardaloedd gwledig sy’n defnyddio gwasanaethau a ddarperir yn rhanbarth dwyreiniol gogledd Cymru.

Dysgwch fwy am y prosiect, yr hyn y byddwch chi'n helpu i'w gyflawni, a'r hyn y gallwch chi ei ddisgwyl fel diolch am eich nawdd.


Yn ôl cyfrifiad 2011, mae’r niferoedd uchaf o siaradwyr Cymraeg sy’n byw yng ngogledd Cymru yng Ngwynedd (65%), ond yn gyffredinol yng ngogledd Cymru mae traean o’r boblogaeth yn siaradwyr Cymraeg, ac mae’r galw am wasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg yn amlwg ym mhob ardal, gan gynnwys pobl o ardaloedd gwledig sy’n defnyddio gwasanaethau a ddarperir yn rhanbarth dwyreiniol gogledd Cymru.

Ein nod fel bwrdd iechyd yw cael yr un gymhareb o staff sy’n siarad Cymraeg i adlewyrchu’r niferoedd hyn. Mae recriwtio i rai swyddi arbenigol yn anodd yn lleol, felly mae’n bwysig ein bod yn cynnig gwersi Cymraeg i ddeilwyr y swyddi hyn, fel unrhyw swydd sydd â chysylltiad â’r cyhoedd.

Er bod y Gymraeg yn elfen hynod o bwysig mewn gofal i lawer o siaradwyr Cymraeg, mae gan rai grwpiau fwy o angen i dderbyn eu gwasanaeth yn Gymraeg. Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi yn ei Fframwaith Strategol Olynol ar gyfer Gwasanaethau Cymraeg mewn Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Gofal Cymdeithasol 2016-2019, bod y Gymraeg yn elfen gofal hyd yn oed mwy hanfodol i rai grwpiau, sef:

• Plant a Phobl Ifanc
• Pobl Hŷn
• Pobl ag anableddau dysgu
• Defnyddwyr gwasanaethau iechyd meddwl
• Gwasanaethau Dementia
• Gwasanaethau Strôc
• Gwasanaethau Therapi Iaith a Lleferydd

Fodd bynnag, mae cyfathrebu’n hanfodol o fewn y gwasanaethau iechyd, a gall unrhyw glaf deimlo’n fwy agored i niwed ac yn methu cyfathrebu ei wir deimladau os nad oes modd iddo siarad ei iaith gyntaf.

Felly, mae’n hanfodol i ni fod â digon o staff sy’n gallu siarad Cymraeg i ddiwallu’r angen hwn, a bydd cynnal cystadleuaeth Dysgwr Cymraeg y Flwyddyn yn gwobrwyo’r enillydd a’r rhai fydd wedi cyrraedd y rownd derfynol, annog mwy o ddysgu a thynnu sylw at y gwasanaethau Cymraeg rydym yn eu cynnig i’n staff a barn y cyhoedd am y Bwrdd Iechyd, ac yn ei dro yn denu mwy o ddysgwyr Cymraeg posibl.



Fel tîm, rydym yn awyddus i annog ein staff sydd newydd ddechrau dysgu Cymraeg neu rai sydd wedi bod wrthi ers tro a bellach bron yn rhugl, mewn unrhyw ffordd gallwn, a dangos ein gwerthfawrogiad am eu hymroddiad.

Rydym angen gwneud y gystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn mor atyniadol â phosibl. Un ffordd i gyflawni hyn yw cynnig gwobrau dengar i’n henillydd a’r rhai yn y rownd derfynol, i annog cymaint â phosibl o’n dysgwyr i gystadlu, er mwyn creu cyffro a brwdfrydedd. Bydd y gystadleuaeth hon ar agor i bob aelod o staff sy’n ddysgwyr o bob lefel, o’r dechreuwyr i’r rhugl. Fe’u beirniedir gan banel o feirniaid a fydd yn edrych ar y gwahaniaeth maen nhw wedi’i wneud yn y gweithle a’r buddion i’n cleifion drwy ddysgu Cymraeg, hefyd, sut mae eu bywydau wedi newid yn y gymuned ac yn y cartref.

Bydd unrhyw wobrau y gobeithiwn eu cynnig yn mwyafu eu dysg ymhellach, megis tocynnau llyfrau Cymraeg, tanysgrifiad cylchgronau, cwrs preswyl, adnoddau TG ayb.

Crynodeb

• Cynyddu ymwybyddiaeth o wersi Cymraeg
• Hwb i’r brwdfrydedd dysgu Cymraeg
• Annog mwy o ymdrech ymysg dysgwyr presennol


Rydym yn chwilio am roddion mewn nwyddau o wobrau i'r enillydd a’r rhai yn y rownd derfynol.

Yn benodol, hoffem:

1 x Tlws i’r enillydd Eisoes wedi'i sicrhau!
• 1 x Llechen i gynorthwyo dysgu drwy gyrsiau ar-lein/mynediad i gyfryngau
• 1 x Cacen fawr i’w thorri yn y seremoni fel rhan o’r dathliad ac i’w rhannu â phawb fydd yn bresennol yn y digwyddiad
1 x Wythnos yn Nantgwrtheyrn Eisoes wedi'i sicrhau!
• 2 x Noddi lle ar gwrs lefel addas yn y gymuned leol
• 6 x Tanysgrifiad i gylchgronau Cymraeg - Golwg/Lingo
6 x Tocynnau rhodd llyfrau Cymraeg Eisoes wedi'i sicrhau!


Yn gyfnewid am eich cefnogaeth, byddwch yn derbyn y gwobrau canlynol.

• Mae gennym fwy na 17,000 o staff sy'n derbyn cyfathrebiaeth reolaidd drwy ein sianeli corfforedig. Byddai noddi DCYF yn golygu byddai enw eich cwmni yn ymddangos ar holl gyfathrebiadau gyda'n gweithlu ar draws gogledd Cymru, gan gynnwys e-bost, mewnrwyd, enewyddlen ac ap staff
• Lleoliad amlwg ar ein tudalen mewnrwyd staff mewnol ochr yn ochr â gwybodaeth am y gwobrau
• Lleoliad amlwg ar ddeunyddiau hyrwyddo sy'n gysylltiedig â'r gwobrau
• Eich enw'n ymddangos mewn cyfres eang iawn o ddatganiadau'r wasg, a gyhoeddir cyn y noson o ddathlu enwebiadau'r gwobrau
• Cydnabyddiaeth ar lafar o'ch cefnogaeth ar y noson
• Cyfle i ymddangos ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol, cyn y gwobrau ac ar y noson. Mae gennym fwy na 14,000 'hoffi' ar Facebook a 10,000 o ddilynwyr Twitter, gydag ymgysylltiad cyson gyda'n cynulleidfa ar y ddwy sianel
• Cysylltiad cadarnhaol gyda’r GIG, ystyrir yn un o'r brandiau cryfaf, y gellir ymddiried ynddo drwy'r DU cyfan, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, y cyflogwr sengl mwyaf yng ngogledd Cymru, ac Awyr Las, elusen GIG gogledd Cymru
• Cyfle i gyflwyno gwobr o'ch dewis ar y noson


Holwch yn awr am noddi Cystadleuaeth Dysgwr Cymraeg y Flwyddyn BIPBC

Llenwch y ffurflen isod a bydd aelod o Dîm Cymorth Awyr Las yn cysylltu â chi i drafod y cyfle noddi.

Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf

Gadewch i mi wybod am newyddion a digwyddiadau Awyr Las, a sut y gallaf wneud rhywbeth anhygoel i wella gofal iechyd yng Ngogledd Cymru

Keep in touch Already subscribed? Unsubscribe here