Mae Awyr Las yn ‘gyrru’ ymgyrch i adeiladu cerbyd sganio symudol chwyldroadol ar gyfer cleifion cardiaidd mewn cymunedau gwledig
Mae elusen GIG Gogledd Cymru yn galw ar y cyhoedd i helpu i godi £66,000 tuag at yr apêl fel rhan o’r ymgyrch genedlaethol Te Mawr y GIG i brynu cerbyd diagnostig ar gyfer y galon.
Bydd y cerbyd yn cynnwys technoleg, sy’n caniatáu i glinigwyr deithio at gleifion bregus fel y gallant gael diagnosis a pherfformio asesiadau o bell.
Bydd y dull arloesol yn arbed adnoddau hanfodol a gofod clinig i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC), ac yn lleihau amseroedd aros gan y bydd pobl yn cael eu gweld y tu allan yn eu cartrefi, ym meddygfeydd eu meddygon teulu a meysydd parcio ysbytai o fewn eu cymuned yn hytrach na gorfod mynychu safleoedd meddygol.
Cafodd y syniad ei gynnig gan yr Uwch Seicolegwyr Cardiaidd Liana Shirley a Hannah Jones, a fu'n ymweld â mwy na 80 o gleifion ar draws Gogledd Cymru yn ystod Cyfnod Clo cyntaf y coronafirws.
Gan fod nifer y bobl sy'n cael eu derbyn i'r ysbyty oherwydd methiant y galon wedi codi mwy na 30% yn ystod y pum mlynedd diwethaf, dywed Liana fod angen gwasanaethau ecocardiograffeg yn fwy nag erioed o'r blaen, ac mae'n gobeithio y bydd pobl yn cefnogi Awyr Las i godi arian hanfodol ar gyfer y cerbyd hwn.
“Pan darodd y pandemig y llynedd gan orfodi clinigau cleifion allanol i gau, daeth yn amlwg yn fuan y byddai’n rhaid canslo ein gwasanaeth, neu addasu a dod o hyd i ateb rhag i’r rhestrau aros dyfu,” meddai Liana.
“Dyna pryd y dechreurwyd ymweld â chartrefi,gan dteithio i bob rhan o Ogledd Cymru yn ein ceir gyda sganwyr cludadwy a'r holl offer yr oedd eu hangen arnom i gynnal archwiliadau ac ecocardiogramau mewn PPE llawn (Offer Amddiffynnol Personol).
“Roedd heriau - roeddem yn aml yn eistedd ar ddodrefn, nid oedd y goleuadau’n wych a’r amgylchedd yn anaddas ar gyfer asesiadau meddygol - ond roedd yn angenrheidiol, ac roedd yr adborth a gawsom gan gleifion yn gadarnhaol.
“Ond nid oedd hyn byth yn mynd i fod yn gynaliadwy yn y tymor hir, a dyna pryd y gwnaethom feddwl am y syniad ar gyfer y Cerbyd Diagnostig Cardiaidd, gyda chefnogaeth yr arweinydd clinigol, Graham Thomas GP.”
Roedd heriau - roeddem yn aml yn eistedd ar ddodrefn, nid oedd y goleuadau’n wych a’r amgylchedd yn anaddas ar gyfer asesiadau meddygol - ond roedd yn angenrheidiol, ac roedd yr adborth a gawsom gan gleifion yn gadarnhaol.Liana Shirley, Uwch Ffisiolegwyr Cardiaidd
Ychwanegodd Hannah: “Cafodd hanner y cleifion y gwnaethon ni ymweld â nhw ddiagnosis o ryw fath o fethiant ar y galon, a byddai o leiaf 10 ohonyn nhw wedi cael eu derbyn i’r ysbyty fel arall. Gan fod pob derbyniad i'r ysbyty yn costio tua £4,000 arbedwyd degau o filoedd o bunnoedd i'r GIG trwy weld y bobl hyn yn eu cartrefi eu hunain.
"Ni yw’r unig dîm yng Nghymru i wneud hyn a, hyd y gwyddom, nid oes Cerbydau Diagnostig Cardiaidd eraill yn y DU, felly mae hyn yn drawsnewidiol."
Mae fan masnachol ysgafn Peugeot Boxer newydd wedi chanfod gan gwmni gweithgynhyrchu arbeingol a bydd yn cael ei thrawsnewid i mewn i uned feddygol o bell ac yn cynnwys sganiwr cludadwy, desg i gyfrifiadur, sinc a chyfleusterau glanhau a gwely addasadwy trydanol.
O Gaergybi i Hope, bydd Liana a Hannah yn gallu ymweld â'r rhai mwyaf agored i niwed yn y gymdeithas cyn bo hir, gan arbed amser ac arian i'r Bwrdd Iechyd, ac, yn bwysicaf oll yn achub llawer o fywydau.
“Roedd ein cleifion mor falch eu bod yn dal i allu cael gwasanaethau er gwaethaf COVID-19 a chael ecocardiogram heb orfod mynychu’r ysbyty ac oherwydd y pryder o ddal y Coronafirws” meddai Hannah.
Roedd ein cleifion mor falch eu bod yn dal i allu cael gwasanaethau er gwaethaf COVID-19 a chael ecocardiogram heb orfod mynychu’r ysbyty ac oherwydd y pryder o ddal y Coronafirws.Hannah Jones, Uwch Ffisiolegwyr Cardiaidd
"Roeddent yn fwy cyfforddus ac yn ymlacio, felly mae'n hanfodol ein bod yn parhau i weithredu yn y gymuned- a gyda cherbyd pwrpasol gallwn wneud hynny.”
Ychwanegodd Liana: “Mae hwn yn wasanaeth sy’n effeithio ar bawb, felly byddem yn ddiolchgar o unrhyw gefnogaeth fel rhan o apêl Te Mawr y GIG.”
Mae Awyr Las yn annog y cyhoedd i ymuno i gael paned fwyaf y genedl er mwyn dangos eu gwerthfawrogiad yn genedlaethol ac fel arwydd o ddiolch,. Ar yr un pryd bydd pawb yn casglu arian ar gyfer gweithwyr anhygoel y GIG sydd wedi bod yno i'r genedl dros y flwyddyn ddiwethaf. Gall pawb gymryd rhan trwy godi cwpaned, gael te parti rhithiol neu un go iawn eu hunain ar Orffennaf y 5ed.
Dywedodd Kirsty Thomson, Dirprwy Gadeirydd Elusennau’r GIG ‘Gyda’n Gilydd’ a Phennaeth Codi Arian Awyr Las: “Ar ôl cymaint o fisoedd unig i lawer, mae Te Mawr y GIG yn gyfle i bawb ymuno â ffrindiau, teulu a chymdogion, i gymunedau i ddod at ei gilydd a diolch i staff y GIG ar y cyd am bopeth maen nhw wedi'i wneud dros y flwyddyn ddiwethaf.
“Rydyn ni’n gobeithio y bydd pobl yn cynnal eu digwyddiadau eu hunain ac yn ein helpu i dalu cost y Cerbyd Diagnostig Cardiaidd, gwasanaeth a fydd yno i bobl ledled y rhanbarth ac a fydd yn cael effaith fawr am flynyddoedd i ddod.”
Dros y 10 mlynedd diwethaf, mae Awyr Las wedi derbyn mwy na £25m mewn rhoddion. Mae’r gefnogaeth yma wedi helpu i dalu am offer arloesol a chyfleusterau newydd, hyfforddiant staff, ymchwil, prosiectau arbennig , a’r gwasanaethau a chysuron cleifion ychwanegol hynny sy'n fwy na'r hyn y gall arian y GIG eu darparu.
I godi arian ar gyfer y Cerbyd Diagnostig Cardiaidd a chofrestru ar gyfer digwyddiad Te Mawr y GIG, ewch i'r wefan: www.awyrlas.org.uk/cy/big-tea