Awyr Las | Blue Sky

Bwydlen

Tîm

Ni waeth a ydych chi eisiau gwneud her gorfforol flinderus neu drefnu digwyddiad mawreddog, mae Tîm Awyr Las ar gael i roi help llaw i chi bob cam o'r daith.

Ynghyd â chyngor a chefnogaeth, gallwn ddarparu:

  • Cymorth i greu tudalennau codi arian ar-lein
  • Cymorth i hyrwyddo'r hyn rydych yn ei wneud - ar gyfryngau cymdeithasol ac yn y wasg leol
  • Adnoddau i'ch helpu i godi arian - yn cynnwys ffurflenni noddi, posteri, balŵns a chrysau-t
  • Ymweliadau â gwasanaethau gofal iechyd fel bo’n briodol, i weld effaith eich rhodd yn cael ei rhoi ar waith
Rydym yn gweithio'n agos â'n cydweithwyr gofal iechyd, fel bod gennym ddealltwriaeth fanwl o anghenion a blaenoriaethau y cronfeydd gwahanol. Golyga hyn ein bod yn gallu gwneud yn siŵr fod eich cyfraniad yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf posibl i gleifion a'u teuluoedd. Os nad oes gennych gronfa benodol mewn golwg, gallwn eich helpu i wneud cyfraniad lle mae ei angen fwyaf a lle bydd yn cael yr effaith fwyaf.
Kirsty Thomson, Tîm Cefnogi Awyr Las

Mae aelodau tîm cefnogi ymroddedig ym mhob un o'r tair ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, felly ffoniwch neu e-bostiwch eich cyswllt agosaf er mwyn dechrau ar eich taith codi arian heddiw:

GorllewinCanologDwyrain
Ruth, ElenaEmma, SarahCath, Dave

Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf

Gadewch i mi wybod am newyddion a digwyddiadau Awyr Las, a sut y gallaf wneud rhywbeth anhygoel i wella gofal iechyd yng Ngogledd Cymru

Keep in touch Already subscribed? Unsubscribe here