Diolch!
Helo!
Diolch yn fawr eto am wneud codwr arian ar Facebook ar gyfer Awyr Las. Er mwyn sicrhau ein bod yn derbyn eich arian yn gywir, ac i sicrhau bod yr arian yn cael ei ddyrannu i'r ward, gwasanaeth neu adran gywir (os oes gennych chi ddewis), ac fel y gallwn ddiolch i chi yn iawn am eich cefnogaeth wych, byddem wrth ein bodd pe bai gallech gwblhau'r ffurflen fer isod.
Bydd eich cefnogaeth yn gloywi dyddiau cleifion, ac mewn llawer o achosion bydd yn trawsnewid bywydau cleifion. Yn achlysurol iawn fe hoffem gysylltu â chi i roi gwybod i chi sut y bydd eich cyfraniadau’n gwneud gwahaniaeth a rhannu gwybodaeth am yr elusen a digwyddiadau’r GIG a mentrau newydd i wirfoddoli a chodi arian. Chi sydd â rheolaeth a gallwch ddewis sut yr hoffech i ni gysylltu â chi: e-bost, testun a ffôn neu yn y post.
Fe anfonnir cyfathrebiadau’r elusen atoch chi gan Dîm Cefnogi Awyr Las.
Gallwch newid y ffordd y byddwn yn cysylltu â chi ar unrhyw adeg drwy gysylltu â Thîm Cefnogi Awyr Las - ebostiwch awyrlas@wales.nhs.uk neu ffoniwch 01248 384395. Gallwch fod yn sicr hefyd y gwnawn ni ofalu am eich data a’i ddefnyddio a’r gofal mwyaf, ac ni wnawn fyth ei ffeirio na’i werthu
Ewch i’n haddewid codi arian a’n datganiad preifatrwydd i gael mwy o wybodaeth.