Sut i helpu yn ystod COVID-19
Diolch yn fawr i bawb sydd wedi cysylltu yn cynnig cymorth er mwyn helpu’r GIG yma yng Ngogledd Cymru i ymateb i COVID-19.
Mae llawer o ffyrdd y gallwch helpu:
Aros Adref, Achub Bywydau
- Mae staff rheng flaen y GIG yn mynd i’r gwaith er mwyn ein cadw ni a’n hanwyliaid yn ddiogel. Y peth mwyaf y gallwn ei wneud ar hyn o bryd i ddangos ein diolchgarwch am hynny yw aros gartref.
Rhowch eich amser
- Ymunwch â grŵp cymunedol eich tref neu bentref lleol ar-lein – mae gan y rhan fwyaf o bentrefi, trefi a dinasoedd eu grwpiau cymunedol eu hunain erbyn hyn sy’n gweithio gyda’i gilydd er mwyn helpu i sicrhau bod y grwpiau mwyaf bregus yn cael cymorth gyda siopa a chasglu presgripsiynau.
Rhowch nwyddau neu wasanaethau
- Os ydych yn adnabod cyflenwr lleol sydd am ddangos eu cefnogaeth trwy roi eu gwasanaethau i’r GIG, gofynnwch iddynt gysylltu â Thîm Cymorth Awyr Las yma - awyrlas@wales.nhs.uk.

Arhoswch yn Gwybodus
- Rhannwch negeseuon diweddaraf Iechyd y Cyhoedd gyda’ch anwyliaid er mwyn sicrhau bod pawb yn ymwybodol o’r arweiniad diweddaraf - ewch i wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru
Cyfrannwch yn awr
Gallwch wneud rhodd ar-lein yma i gefnogi timau’r GIG yma yng Ngogledd Cymru sy’n gweithio ddydd a nos yn wyneb pandemig COVID-19. Bydd eich rhoddion yn helpu i ariannu eitemau sy’n mynd ymhellach o lawer na’r hyn y gall y GIG ei ddarparu, er enghraifft, dyfeisiau iPad i gleifion ysbyty nad ydynt yn gallu cael ymwelwyr erbyn hyn i’w helpu i gadw mewn cysylltiad â’u teuluoedd a chymorth emosiynol ychwanegol i staff rheng flaen y GIG.
Ffyrdd o gyfrannu
Wneuthurwyr fisorau gwirfoddol yng Ngogledd Cymru
Rhannwch y neges bwysig hon gyda’r holl wneuthurwyr fisorau gwirfoddol yng Ngogledd Cymru, os gwelwch yn dda
I sylw ysgolion, colegau, busnesau, prifysgolion a thechnolegwyr brwd sy'n cynhyrchu fisorau yn wirfoddol ar gyfer gweithwyr allweddol yng Ngogledd Cymru. Diolch i bob un ohonoch chi yn y gymuned gwneuthurwyr - rydych oll yn wych! Byddwch mor garedig â darllen y wybodaeth bwysig yma a rhannu’r neges gyda gwneuthurwyr eraill yng Ngogledd Cymru.
Y GYMUNED CREFFT A GWNÏO GOGLEDD CYMRU
GWYBODAETH PWYSIG A DIOLCH YN FAWR GER Y GYMUNED CREFFT A GWNÏO GOGLEDD CYMRU
Diolch yn fawr am yr holl amser a’r angerdd y mae ‘crefftwyr’ a selogion gwnïo yng Ngogledd Cymru yn ei gyfrannu i wneud eitemau wedi’u gwneud â llaw ar gyfer staff y GIG.
Mae eich ymrwymiad caredig yn golygu'r byd i bawb a fydd yn elwa o'ch cefnogaeth hael. Gofynnir yn barchus i bob gwneuthurwr BEIDIO â danfon yr eitemau pwysig hyn i unrhyw safle ysbyty BIPBC.
Darllenwch wybodaeth pwysig ar y safle yma a'i rhannu â chymunedau crefft a gwnïo eraill ledled Gogledd Cymru.
Diolch am eich help a'ch cefnogaeth anhygoel i staff rheng flaen BCUHB. Diolch i chi am feddwl am eich cymuned. Diolch i chi am gefnogi'ch GIG.