Rydym eisiau ein cymuned i "Roi Cynnig ar CPR, a pheidio â cherdded heibio”.
Mae unrhyw CPR yn well na dim CPR.
Mae ein staff y GIG yn fodlon i roi o'u hamser i ddysgu CPR i gymuned Gogledd Cymru, ond maent angen adnoddau i wneud hyn. Mae ymgyrch "Rhowch gynnig ar CPR, a pheidiwch â cherdded heibio" yn anelu at ariannu Modelau, nid yn unig ar gyfer ein staff allu addysgu CPR, ond hefyd i helpu bob ysgol gynradd yng Ngogledd Cymru i gael eu model eu hunain, gan eu galluogi i ymuno â Heart Start, a Defibuary a Shocktober gwasanaeth Ambiwlans Cymru. Mae pecyn o 10 model BHF yn costio £391 (heb TAW).
Rydym hefyd angen gallu cynnig cefnogaeth a chyngor i gymunedau lleol ynglŷn â sefydlu safleoedd diffibrilwyr mynediad cyhoeddus cymuned a'u cynnal, yn ogystal â chael rhywun ar gael pan fo ein cymuned ein hangen.
Os ydych chi, fel ni yn angerddol dros achub bywydau, gallwch ein helpu drwy roi heddiw - tecstiwch KTB i 70500 i roi £5 yn awr.
Gallwch hefyd anfon siec yn daladwy i Awyr Las i: Awyr Las, Swyddfa Gyffredinol, Ysbyty Gwynedd, Penrhosgarnedd, Bangor, LL57 2PW. Gwnewch nodyn ar gefn y siec ei fod yn rhodd ar gyfer Cadwch Curiadau!
Mae bob curiad calon yn cyfrif 💙 Mae bob ceiniog yn cyfrif. Diolch.
Paratowch eich hun ar gyfer y diwrnod y bydd angen eich sgiliau CPR i achub bywyd rhywun sy'n annwyl i chi, heb hyd yn oed orfod gadael y soffa!