Awyr Las | Blue Sky

Bwydlen

Diffibrilwyr cymunedol... Beth, pam, ble!

Diffibrilwyr Cymunedol

Y cyfan sydd angen i chi ei wybod am ddiffibrilwyr!

  • Beth yw diffibriliwr?

Mae Diffibrilwyr Allanol Awtomatig (AED) yn ddyfeisiau sy'n gallu rhoi sioc drydanol i'r un a anafwyd sydd yn cael ataliad y galon. Mae'r dyfeisiau hyn yn syml ac yn ddiogel i'w defnyddio, a gellir dod o hyd iddynt mewn lleoliadau ledled Cymru.

  • Ydw i angen hyfforddiant i ddefnyddio AED?

Nid ydych angen hyfforddiant i ddefnyddio AED, ond bydd hyfforddiant yn rhoi hyder rydych ei angen os ydych angen rhoi CPR a defnyddio'r AED yn y dyfodol. Mae CPR sylfaenol a defnyddio'r AED yn sgil syml i ddysgu, ond yn un sy'n gallu achub bywyd.

  • Pam fod yr AED angen cabinet wedi'i wresogi?

Mae angen y cabinet wedi'i wresogi i gadw batri yr AED yn gynnes dros fisoedd y gaeaf, mae'r cabinet hefyd yn caniatáu mynediad 24 awr mewn argyfwng. Mae'r AED yn gofalu amdano'i hun, a bydd yn perfformio hunan wiriadau i sicrhau bod y system yn barod i'w defnyddio. Os oes nam yn cael ei ganfod, bydd yn dangos hyn drwy ddangos croes goch ar sgrin yr AED.

  • A oes mathau gwahanol o AED?

Oes, mae mathau gwahanol o AED. Maent i gyd yn gwneud yr un swydd, er hynny, mae costau parhaus drud gyda rhai diffibrilwyr. Mae un math o ddiffibriliwr sydd heb unrhyw gostau parhaus, gan fod ei badiau a'r batris yn cael eu newid am ddim gan y gwasanaeth ambiwlans ei hun. Mae hyn oherwydd bod y diffibriliwr ZOLL yn gydnaws â diffibriliwr y gwasanaeth ambiwlans, sy'n golygu bod modd trosglwyddo'n sydyn rhwng dyfeisiau, mae hefyd yn golygu bod swyddog cefnogi CPADS Gogledd Cymru yn gallu newid y padiau ar ôl iddo gael ei ddefnyddio, am ddim heb oedi, gan sicrhau bod yr AED yn cael ei ailosod ac yn barod i'w ddefnyddio eto yn brydlon, heb unrhyw gostau parhaus i'r gymuned. Gellir newid hen badiau a batris ar AED ZOLL am ddim ar gais Swyddog Cefnogi PADS Gogledd Cymru - cysylltwch ag ef ar tomos.hughes@wales.nhs.uk.

Oeddech chi'n gwybod?

Mae'r AED yn gofalu amdano'i hun, a bydd yn perfformio hunan wiriadau i sicrhau bod y system yn barod i'w defnyddio. Os oes nam yn cael ei ganfod, bydd yn dangos hyn drwy ddangos croes goch ar sgrin yr AED.

Rhoi i Cadwch Curiadau

Tecstiwch KTB i 70500 i roi £5 yn awr - bydd 100% o'ch rhodd yn mynd tuag at brosiectau CPR a Diffibriliwr Mynediad Cyhoeddus yng Ngogledd Cymru. Diolch!

Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf

Gadewch i mi wybod am newyddion a digwyddiadau Awyr Las, a sut y gallaf wneud rhywbeth anhygoel i wella gofal iechyd yng Ngogledd Cymru

Keep in touch Already subscribed? Unsubscribe here